Pwdin Reis yn rhyddhau ‘Galwa Fi’

Mae’r grŵp Pwdin Reis wedi rhyddhau eu sengl newydd ‘Galwa Fi’ ers dydd Gwener 5 Chwefror.

Grŵp Rockabilly o Orllewin Cymru ydy Pwdin Reis, ac mae’r aelodau’n cynnwys y cerddorion amlwg Betsan Haf Evans a Neil Rosser.

Mae Betsan yn gyfarwydd hefyd fel aelod o Cwtsh, ac wrth gwrs fel un o ffotograffwyr amlycaf Y Selar.

Mae Neil Rosser yn amlwg am fod yn Neil Rosser!

Mae’r sengl newydd allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.

Mae’r trac yn fersiwn cyfyr Gymraeg o ‘Call Me’ gan Blondie a ryddhawyd yn wreiddiol ym 1980.

Dyma ydy pum,ed sengl y grŵp o’r Gorllewin hyd yma, ac mae’r geiriau’n gyfieithiad agos o’r geiriau gwreiddiol.

Mae’r sŵn yn nodweddiadol o’r hyn mae ffans Pwdin Reis wedi dod i arfer ag ef, a’u gallu i roi tro newydd i’r glasur o gyfnod new wave y 1970au.