Mae’r grwpiau pop seicadelig Pys Melyn ac Omaloma wedi dod ynghyd i recordio a rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener 29 Ionawr.
‘Prin’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Ski-Whiff, ac mae’n debyg ei bod wedi’i recordio cyn i gyfnod y clo mawr ddechrau llynedd.
Dau brif egni’r grwpiau, sef Ceiri Humphreys o Pys Melyn, a George Amor o Omaloma, ddaeth ynghyd i gyd-weithio ar y trac newydd.
Er ei bod ar y gweill ers amser maith, wythnos diwethaf oedd y tro cyntaf iddi gael ei chlywed gan y cyhoedd, a hynny ar raglen BBC Radio Cymru Siân Eleri.
Ar ôl cyfnod digon tawel, mae’n ymddangos bod pethau’n dechrau prysuro eto i Pys Melyn. Roedden nhw’n un o’r grwpiau a berfformiodd fel rhan o gyfres Stafell Fyw ar Lŵp yn ddiweddar, ac mae’n debyg bydd newyddion am albwm gan y grŵp yn y dyfodol agos.