Bydd yr artist electronig o ardal Ddyffryn Clwyd, R. Seiliog, yn rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ddydd Gwener nesaf, 5 Mawrth.
‘Harakiri’ ydy enw’r trac newydd gan brosiect cerddorol Robin Edwards sy’n dod yn wreiddiol o bentref Peniel ger Dinbych.
‘Harakiri’ ydy’r ddiweddaraf mewn cyfres o senglau mae R. Seiliog wedi rhyddhau ar label Recordiau Imprint. Ymddanosodd ‘Polar Hex’ ym mis Awst llynedd, yna ‘Reducing Valve’ ym mis Medi ac yna ‘Tag-39’ ym mis Rhagfyr i gwblhau trioleg o senglau yn ail hanner 2020.
Mae ail drac, neu ‘B Side’, ar gyfer y sengl hefyd sef ‘Glint’ ac mae’r ddau drac yn gwrthgyferbynu o ran sain.
Mae gyriant ‘Harakiri’ yn cwympo a gwrthdorri i greu cymysgiad miniog, seicadelig a hypnotig gan arwain at ‘Glint’, sy’n syrthio’r ddyfnach mewn i bardo electroacousic yn ôl y label.