Mae Ratatosk wedi rhyddhau record fer newydd dan yr enw Late December 2021 ar ei safle Bandcamp ers 23 Rhagfyr.
Ratatosk ydy enw prosiect unigol y cerddor profiadol Rhodri Viney sy’n disgrifio ei gerddoriaeth fel ‘gwerin trist’.
Mae wedi bod yn cyfansoddi a pherfformio ers dros 20 mlynedd ac wedi cael tipyn o lwyddiant gyda’r band Right Hand Left Hand, a enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2016 a 2020.
Yn y gorffennol, mae Rhodri hefyd wedi rhyddhau cerddoriaeth dan yr enwau Teflon Monkey a Broken Leaf cyn setlo ar brosiect Ratatosk yn 2007.
Rhyddhaodd ei record gyntaf fel Ratatosk, The Cecil Sharp Songs, yn y flwyddyn honno, ac mae wedi rhyddhau 9 o recordiau ers hynny – cwpl o senglau, ond y gweddill yn EPs neu albyms.
Ail gasgliad o’r flwyddyn
‘Late December 2021’ ydy’r ail gynnyrch i ymddangos gan y prosiect yn ystod 2021 ar ôl rhyddhau’r cryno-albwm Yn Canu ym mis Gorffennaf 2021. Roedd y casgliad hwnnw’n gymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg.
Dywed Rhodri ei fod yn “gadael y caneuon Nadolig i’r arbenigwyr” ond ei fod yn teimlo bod rhaid iddo wneud rhywbeth ar ddiwedd blwyddyn heriol arall. Mae’n disgrifio’r caneuon newydd fel rhai ‘gaeafol’ felly, yn hytrach na Nadoligaidd.
”Ar ôl ymdopi gyda blwyddyn erchyll arall oedd yn ymddangos i fod yn gwaethygu wrth fynd ymlaen, ro’n i’n teimlo bod rhaid i mi wneud…rhywbeth” meddai Rhodri.
“Felly, dyma rywbeth: cân ac ychydig o sgetsys offerynnol gyda naws gaeafol.
“Ro’n i eisiau ceisio dal y teimlad yna o’r amser arbennig yma o’r flwyddyn, pan fyddwch chi’n deffro yn y bore, edrych allan trwy’r ffenestr, amsugno’r prydferthwch perffaith a meddwl “o na, nid diwrnod arall.”
Dyma’r trydydd trac o’r casgliad, ‘Ager’: