Mae label Ankst Musik wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau albwm newydd gan Ffrancon ar gyfer Diwrnod Siopau Recordiau Annibynnol (Record Store Day) eleni.
Ffrancon ydy un o brosiectau cerddorol Geraint Ffrancon, sy’n gyfarwydd am ei gerddoriaeth electronica amgen.
GWALAXIA: BELLEVILLE 1315/MACHYNLLETH 1404 ydy enw’r casgliad cysyniadol newydd fydd allan ar ffurf feinyl ar y diwrnod sy’n dathlu siopau recordiau, sef 17 Gorffennaf.
Yn ôl y label, bydd sengl a fideo yn cael eu rhyddhau cyn hynny yn ystod mis Mehefin.
Mae Ffrancon wedi bod yn ddigon gweithgar yn ddiweddar – fe ryddhaodd albwm epig Ewropa ym Mai 2019, ac am hanner nos ar nos Calan fe ryddhaodd yr EP Ewropa 2034.