A hwythau newydd ryddhau eu sengl ddwbl, ‘Mwynhau / Ofni Braidd’ wythnos diwethaf , mae Breichiau Hir hefyd wedi cyhoeddi bod bodd rhag archebu eu halbwm newydd bellach.
Hir Oes i’r Cof ydy enw albwm cyntaf y grŵp roc o Gaerdydd, a bydd yn cael ei ryddhau ar 19 Tachwedd.
Mae’r grŵp wedi datgelu y bydd yr albwm ar gael ar ffurf feinyl trwm lliw coch, ond ni fydd rhain yn cael eu postio i brynwyr nes mis Ebrill 2022 oherwydd problemau cynhyrchu feinyl ar draws y byd ar hyn o bryd.
Bydd gig lansio swyddogol yr albwm yn Clwb Ifor Bach, Caerdydd ar nos Sadwrn 20 Tachwedd gyda chefnogaeth gan y grwpiau False Hope For The Savage a Patryma.
Mae modd prynu’r record, a thocyn i’r gig lansio fel cynnig ‘bwndel’ arbennig ar safle Bandcamp Breichiau Hir am £25.