Yn dilyn wythnos o ddathliadau ar donfeddi Radio Cymru rhwng 8 a 12 Chwefror, roedd rhaglen deledu arbennig gan Lŵp, S4C, i ddathlu enillwyr Gwobrau’r Selar yn cael ei darlledu nos Iau diwethaf, 25 Chwefror.
Ymysg yr artistiaid a ymddangosodd ar y rhaglen roedd Mared, Eädyth, Bwncath, Lisa Pedrick a Malan.
Roedd cyfle cyntaf yn ogystal i weld fideos newydd ar gyfer ‘Hel Sibrydion’ gan Lewys a ‘Bach o Flodyn’ gan Kim Hon. Roedd sgwrs hefyd gyda Golygydd cylchgrawn Y Selar, Gwilym Dwyfor.
Mae modd gwylio’r rhaglen eto ar S4C Clic.
GWOBRAU’R SELAR • Nos fory 🕙 22:00 ar @S4C pic.twitter.com/kDn7tVytQx
— Lŵp (@LwpS4C) February 24, 2021