Rhifyn Mawrth 2021 cylchgrawn Y Selar

Mae rhifyn newydd sbon o gylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg Y Selar allan rŵan.

Mae’r rhifyn ar gael o’r mannau arferol sy’n dal i fod ar agor ar hyn o bryd, neu mae fersiwn digidol ar-lein hefyd wrth gwrs.

Gydag enillwyr Gwobrau’r Selar eleni newydd eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru, enillydd y wobr arbennig ‘Gwobr 2020’, Eädyth, sy’n serennu ar glawr y rhifyn newydd ac mae cyfweliad gyda’r gantores electronig weithgar rhwng y cloriau. Lois Gwenllian fu’n sgwrsio gydag Eädyth, gan fynd o dan groen yr hyn sy’n ei hysbrydoli i weithio mor galed a chreu cerddoriaeth  mor wych

Mae’r Gwobrau’n cael lle amlwg yn y cylchgrawn hefyd, gyda thudalennau’n rhoi sylw i’r rhestrau byr ac enillwyr, ynghyd â rhestr 10 Uchaf Albyms 2020 yn ôl y pleidleiswyr.

Mae’r rhifyn newydd hefyd yn cynnwys Sgwrs Sydyn gyda Bwca, darn am bodlediad Merched yn Gwneud Miwsig gan Elan Evans, a sgwrs gyda Laura Nunez o She’s Got Spies am ei dylanwadau.

Ceir darn arbennig gan Tegwen Bruce-Deans yn holi am effaith y pandemig ar y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg, ynghyd â cholofnau gan Sarah Wynn Griffiths o Radio Ysbyty Gwynedd, a’r cyflwynydd hoffus, Huw Stephens.

Yn ôl yr arfer, mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys tudalennau adolygiadau cynnyrch gan gynnwys albyms Daf Jones, Mr Phormula, Mr a Carwyn Ellis & Rio 18, ynghyd ag EPS Lisa Pedrick, Eädyth x Izzy Rabey a Georgia Ruth.

Os nad ydynt wedi eisoes, fe ddylai copïau fod yn glanio ar stepen drws aelodau premiwm Clwb Selar unrhyw ddydd (manylion sut i ymaelodi).

Gallwch bori’r fersiwn digidol isod