Rhifyn newydd zine Merched yn Gwneud Miwsig

Mae rhifyn diweddaraf y zine digidol ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ wedi cael ei gyhoeddi ar-lein.

Prosiect Maes B i hybu mwy o ferched i ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg ydy ‘Merched yn Gwneud Miwsig’, a dyma bedwerydd rhifyn y cylchgrawn digidol.

Y gantores, ac enillydd gwobr ‘Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar eleni, Malan, ydy curadur y rhifyn newydd sy’n cynnwys erthyglau am y cerddorion Alys Williams, Magi Tudur a Gwenno Morgan ymysg llwyth o eitemau difyr eraill.