Rhifyn newydd zine Merched yn Gwneud Miwsig

Mae trydydd rhifyn y zine Merched yn Gwneud Miwsig wedi’i gyhoeddi’n ddigidol.

Prosiect sy’n cael ei redeg gan Maes B ydy Merched yn Gwneud Miwsig er mwyn hybu ac annog gweithgarwch merched yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Y gyflwynwraig radio  Sian Eleri sydd wedi curadu’r rhifyn newydd ac mae amrywiaeth o gelfyddydau’n cael eu harddangos rhwng y cloriau, yn ogystal â cherddoriaeth.

Mae’r erthyglau cerddorol yn cynnwys darn am y trac ‘I Dy Boced’ gan Thallo,  a chân newydd sbon ar gyfer y rhifyn gan Eädyth. Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys ryseit gan Megg Lloyd, cerdd gan Llio Elain Maddocks, a chyfweliad gyda’r podledwraig Seren Jones.

Darllenwch y rhifyn isod