Rhyddhau 4ydd sengl Sywel Nyw o’r flwyddyn

Gwenllian Anthony o’r grŵp Adwaith ydy partner cerddorol diweddaraf Sywel Nyw wrth iddo ryddhau ei bedwaredd sengl o’r flwyddyn.

Sywel Nyw ydy prosiect unigol ffryntman Yr Eira, Lewys Wyn, ac mae’n gweithio ar brosiect uchelgeisiol i ryddhau sengl newydd bob mis yn ystod 2021, gan gydweithio gydag artist gwahanol bob tro.

Mae eisoes wedi rhyddhau senglau eleni gyda Mark Roberts, Casi Wyn a Gwenno Morgan, ac ar gyfer y sengl ddiweddaraf mae’n partneriaethu basydd Adwaith, Gwenllian Anthony.

‘Pen yn y Gofod’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf ar label Lwcus T.

Yn ôl Gwenllian, mae’r gân yn amserol ac yn cynnwys neges fydd yn atseinio gyda phawb.

“Mae’r gân yma yn adlewyrchu meddyliau cyfnod clo. Y meddyliau positif a’ r negatif.”

“Mae’n dangos y daith o’r teimlad llethol o ddiwerth a phryder, i sylweddoli bod angen neud y gorau o sefyllfa wael.”

Er bod y cyfnod clo wedi arafu tipyn ar brysurdeb a thwf disgwyliedig Adwaith, mae Gwenllian wedi llwyddo i fynd ati i sefydlu prosiect newydd dros y flwyddyn ddiwethaf, sef Tacsidermi. Rhyddhawyd sengl gyntaf ei phrosiect gyda Matthew Kilgariff dan yr enw ‘Gwir’ ym mis Rhagfyr.

 Ar y sengl newydd gyda Sywel Nyw, mae llais arwd Gwenllian ynghyd a’r naws electroneg yn plethu’n hyfryd o dan sŵn nodweddiadol Sywel Nyw.

Yn ychwanegol at y sengl, mae Lewys a Gwenllian wedi rhyddhau STEMS y trac, gyda gwahoddiad agored i unrhyw sydd am wneud hynny fynd ati i ail-gymysgu’r trac.