Rhyddhau ail albwm Mei Gwynedd

Roedden ni’n gwybod bod albwm newydd Mei Gwynedd ar y ffordd, ond sypreis fach neis iawn oedd gweld y record yn glanio’n annisgwyl ddydd Mercher diwethaf.

Enw ail albwm Mei ydy ‘Y Gwir yn Erbyn y Byd’ ac fe’i ryddhawyd heb rybudd ar 11 Awst.

Yn ôl y cerddor mae’n record sy’n cyffwrdd ar sawl thema sensetif i godi ysbryd pobl yn dilyn y flwyddyn a hanner heriol rydym wedi profi.

“Yn wreiddiol, nes i ddarfod yr LP yn Nadolig 2019” eglura Mei.

“…ond wedi i mi adlewyrchu ar yr LP dros 6 mis cyntaf y cyfnod clo, es i nôl ati i ysgrifennu mwy o ganeuon i roi gwir ystyr i’r LP, ond hefyd i’w gyfleu fel caneuon fyddai yn edrych ymlaen at ei pherfformio yn y dyfodol.

“Mae gigs byw i fi yn meddwl hwyl, rhywbeth sy’n gallu codi ysbryd, a rhywle all bobol anghofio eu problemau, a dwi’n gobeithio bydd y teimlad yma yn dod drosodd ar y record newydd. Dipyn o destynau dwys a difrifol wedi eu cuddio mewn caneuon hafaidd a dyrchafol!”

Cyfres o sengl i roi blas

Er bod gweld yr albwm yn gollwng ddydd Mercher yn sypreis, roedd yn hysbys bod casgliad hir ar y ffordd gan yr artist profiadol gan ei fod eisoes wedi rhyddhau cyfres o dair sengl i roi blas dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y ddiweddaraf o’r rhain oedd ‘Dyddiau Gwell i Ddod’ a ryddhawyd fis Mai, gyda ‘Awst 93’ (a ryddhawyd ym Mehefin 2020) a ‘Dim Ffiniau’ (Hydref 2020) yn cael eu rhyddhau cyn hynny.

Mae enw’r albwm yn un cyfarwydd, ac yn ddywediad sydd wedi’i ddefnyddio dros yr oesoedd gan fawrion y genedl megis Owain Glyndŵr, Buddug a Iolo Morgannwg.

Yn ôl Mei mae’r neges yn y dywediad yr un mor berthnasol heddiw ag ydoedd ganrifoedd yn ôl.

Sawl thema

Fel y byddech yn disgwyl gan y cerddor profiadoll, mae’r casgliad yn wledd o ganeuon roc gwych, gyda sŵn gitâr eiconig a llais meddal ac angerddol Mei yn atseinio drwy bob trac. Mae’r caneuon i gyd yn cyffwrdd ar sawl thema gyfarwydd fel cariad, gobaith a nostalgia.

Mae caneuon fel ‘Creda’n Dy Hun’, ‘Kwl Kidz’, ‘Pryd Ddoith Hyn i Ben’, ‘Dim Ffiniau’ a ‘Milltir Sgwar’ yn edrych ar unai unigolion, neu hyd yn oed cymunedau sydd ar yr ymylon a thrio rhoi llais iddynt” meddai Mei.

“Mae’r themâu yma hefyd wedi eu cuddio mewn caneuon serch, ond y neges yw bod pawb angen cariad i gario ni ar y daith.”

Mae Mei Gwynedd wrth gwrs yn wyneb ac enw cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi dilyn cerddoriaeth Gymraeg, yn gyn-aelod o’r grwpiau Beganifs, Big Leaves, Sibrydion, The Peth ac Endaf Gremlin.

‘Y Gwir yn Erbyn y Byd’ ydy ei ail albwm unigol gan ddilyn ‘Glas’ a ryddhawyd ym Mehefin 2018. Bu iddo hefyd ryddhau’r EP ‘Tafla’r Dis’ ym mis Ionawr 2019.