Mae Y Cledrau wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 11 Mehefin.
‘Cerdda Fi i’r Traeth’ ydy enw’r trac newydd sy’n ail gyfle i gael blas ar albwm newydd y grŵp yn dilyn y sengl ‘Hei Be Sy’ a ryddhawyd fis diwethaf.
Mae ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ yn dôn gron dau gord gyda thro yn y gynffon sy’n ein harwain i dymor yr haf.
Recordiwyd y trac yn Stiwdio Sain, Llandwrog gydag Ifan Emlyn Jones yn peiriannu a chynhyrchu gyda’r band.
Y Cledrau ydy Joseff Owen (llais a gitâr), Ifan Prys (gitâr), Marged Gwenllian (gitâr fas) ac Alun Lloyd (drymiau). Mae’r grŵp sy’n dod o ardal y Bala ac Ynys Môn wedi hen sefydlu eu hunain ers sawl blwyddyn, ac fe ryddhawyd eu halbwm cyntaf, ‘Peiriant Ateb’, yn 2017.
Datgelodd y grŵp eu bod wrthi’n gweithio ar albwm newydd beth amser yn ôl, ac mae disgwyl newyddion am union ddyddiad rhyddhau’r record hir yn fuan.