Mae sengl newydd pedair ieithog Annwn allan ers dydd Gwener diwethaf, 2 Gorffennaf.
‘Digon’ ydy enw trac diweddaraf y prosiect newydd sy’n dod â dau gerddor cyfarwydd iawn ynghyd.
Annwn ydy enw band / deuawd newydd Lleuwen Steffan ac Ed Holden (Mr Phormula) ac mae ‘Digon’ yn ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Eto Fyth’, a ryddhawyd fis Mai.
Bu i Lleuwen gyd-weithio gydag Ed ar albwm diweddaraf Mr Phormula, Tiwns, a ryddhawyd fis Tachwedd gan gyfrannu at y trac ‘Normal Newydd’.
Mae’r gân wedi dod yn dipyn o anthem ar gyfer y cyfnod diwethaf, a dyma oedd egin partneriaeth newydd y ddeuawd.
“Aux élèves des écoles, il est défendu de parler breton et de cracher à terre”.
Dyma un o linellau’r gan ac oedd ar bosteri ar waliau ysgolion Llydaw nes diwedd y 1960au. Yn Gymraeg, mae’n golygu “i blant yr ysgolion , gwaherddir siarad Llydaweg a phoeri ar lawr.”
Mae neges arbennig i’r gân oherwydd bod yr hanes yma dal yn fyw heddiw. Yn ddiweddar, mae addysg Llydaweg wedi’i wneud yn anghyfreithlon yn ôl Adran 2 cyfansoddiad Ffrainc.
Yn ôl y gyfraith hon, mae llythrennau Llydaweg megis ñ a c’h yn troi’n anghyfreithlon hefyd, ac enwau bedydd sy’n cynnwys y llythrennau hyn yn cael eu haddasu ar gyfer dogfennau swyddogol .
Does gan blant Llydaw ddim hawl i gael eu haddysg drwy gyfrwng Llydaweg ac nid oes ganddynt hawl i siarad gyda’r athrawon mewn Llydaweg chwaith, na siarad Llydaweg amser chwarae gydag eu ffrindiau. Mae hyn oherwydd bod adran 2 cyfansoddiad Ffrainc yn mynegi mai Ffrangeg yw unig iaith gweriniaeth Ffrainc.
Mae’r neges ar y trac gan Annwn yn glir felly – ‘Digon’.