Mae’r grŵp sy’n cynnwys rhai o gerddorion amlycaf Cymru wedi rhyddhaau eu hail sengl.
Boi ydy’r band ‘siwpyr grŵp’ newydd sy’n cynnwys Meilyr Sion ac Osian Gwynedd, oedd yn gyd-aelodau o’r Big Leaves a Baganifs, ynghyd â Heledd Mair Watkins (HMS Morris), Ifan Emlyn (Candelas) a Dafydd Owen (Bob, Sibrydion).
Rhyddhawyd eu sengl gyntaf bythefnos yn ôl ar 30 Ebrill, sef ‘Cael Chdi Nôl’, a nawr maent wedi dilyn hynny gydag ail drac sef ‘Ribidires’.
Mae’r ddwy sengl yn dameidiau i aros pryd nes rhyddhau albwm llawn cyntaf Boi, ‘Coron a Chwinc’ ar 25 Mehefin. Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau gan label Recordiau Crwn.
Mae BOI yn creu sain mawr, melodaidd, wedi’i yrru’n ddidrugaredd gan y drymiau a gitars gyda geiriau ac alawon sy’n archwilio’ themau mawr ei hoes a’n cyflwr dynol.
Bydd yr albwm, yn cael ei ryddhau dan yr enw ‘Coron O Chwinc’ ar 25 Mehefin ar label Recordiau Crwn.
Recordiwyd 10 trac yr albwm mewn amryw o leoliadau gwahanol o amgylch Cymru, cyn cael ei gymysgu gan Daf Ieuan o’r Super Furry Animals.
Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol ac ar ffurf CD.