Does dim llawer o artistiaid prysurach yn ddiweddar na Shamoniks, ac mae’r cynhyrchydd yn ôl gyda sengl arall newydd sy’n ei weld yn cydweithio unwaith eto gyda Mali Hâf.
Enw’r sengl newydd ydy ‘Pili Pala’ ac mae allan ers sydd Gwener diwethaf ar label UDISHIDO, sef label y cynhyrchydd.
Shamoniks ydy Sam Humphreys, sydd hefyd o’r grwpiau Calan, Pendevig a NoGood Boyo ac mae wedi bod yn cydweithio gyda nifer o artistiaid amrywiol yn ddiweddar.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae wedi rhyddhau senglau gyda Swagath, Eädyth, Skunkadelic a Bouff.
Gwerthfawrogi natur
‘Pili Pala’ ydy’r ail sengl i Shamoniks ryddhau gyda Mali Hâf yn dilyn ‘Refreshing / Freshni’ a ryddhawyd ym mis Ionawr eleni.
Mae’r sengl newydd yn arddangos ochr electronig ddyfnach a thywyllach i’w partneriaeth, ynghyd a’u chwaeth gerddorol amrywiol.
Mae’n debyg hefyd bod y ddau gerddor yn rhannu gwerthfawrogiad mawr o natur.
Mae Mali’n benodol yn hoffi cyfeirio at ei chariad at fyd natur yn ei chaneuon, yn ogystal â phwysigrwydd cysylltu â natur er mwyn byw mewn cydbwysedd go iawn, ac i gyd-fynd â’ch emosiynau.
Mae’r trac yn cyfuno geiriau Cymraeg a Saesneg ar ôl i Mali gael ei hysbrydoli gan ddefnydd o ddwy iaith yn ei hoff draciau cerddoriaeth.
Mae gloÿnnod byw, neu bili palas, yn fotiffau pwysig ym mywyd Mali – maent yn cynrychioli trawsnewidiad, ond yn bwysicach oll, dyna’r llysenw y rhoddodd ei thad iddi pan oedd yn ferch ifanc.
Mae’r gân hefyd yn cyfeirio at ei holl lyfrau gan yr awdur Philip Pullman.
Er gwaethaf ei brysurdeb diweddar, does dim arwydd y bydd Shamoniks yn arafu’n fuan ac mae eisoes wedi cyhoeddi dyddiadau rhyddhau dwy sengl arall ar y cyd â Tom Macaulay ac Eädyth. Dyma’r manylion:
2/4/2021 -Tom Macaulay – Mwg Mawr Gwyn (Shamoniks Remix)
16/4/2021 Shamoniks x Eadyth – Dewisiadau Negyddol
Dyma ‘Pili Pala’: