Mae Morgan Elwy, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp o Ddyffryn Clwyd, Trŵbz, wedi rhyddhau ei ail sengl unigol.
‘Bach o Hwne’ ydy enw’r trac newydd, ac mae’n ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Aur Du a Gwyn’, a ryddhawyd fis diwethaf.
Label Bryn Rock, sef label brawd Morgan, Jacob Elwy, sy’n rhyddhau’r sengl ac mae allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.
Mae’r trac wedi bod yn cael ei chwarae’n rheolaidd ar y tonfeddi dros y cwpl o wythnosau diwethaf, a neges y gân ydy pwysleisio pwysigrwydd rhannu a gofalu am eraill.
Yn ogystal â Morgan, y cerddorion eraill sy’n ymddangos ar y trac ydy Mared Williams, Mali Elwy a Leon Davies. Cymysgwyd a chynhyrchwyd y trac gan Mei Gwynedd.
Mae ‘Bach o Hwne’ yn rhan o albwm unigol cyntaf Morgan Elwy a recordiodd yn ystod haf rhyfedd 2020. ‘Teimlo’r Awen’ ydy enw’r casgliad o 10 trac reggae yn bennaf, ond sydd hefyd yn tynnu ar elfennau o gerddoriaeth werin a phop.
Does dim manylion am union ddyddiad rhyddhau’r albwm eto, ond mae addewid am fwy o fanylion yn fuan.
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: