Bydd albwm cyntaf Bwca yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar 29 Ionawr.
Mae’r albwm, sy’n rhannu enw’r grŵp, wedi’i ryddhau ar ffurf CD ers 2 Tachwedd ond bydd y casgliad nawr ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol hefyd.
Er gwaetha’r cyfnod clo mae Bwca wedi llwyddo i barhau’n rhyfeddol o weithgar dros y flwyddyn ddiwethaf gan ryddhau senglau, perfformio gigs a gwneud ymddangosiadau teledu amrywiol.
Sylfaenydd Bwca ydy’r cerddor o Aberystwyth, Steff Rees, ac ef sydd wedi ysgrifennu caneuon yr albwm i gyd.
Drwg a da, dwysa a dychanol
Mae’r albwm yn nodi degawd ers i Steff symud i dref Aberystwyth, ac mae’n gasgliad o ganeuon llawn ystyr a dylanwadau cerddorol sy’n creu portread difyr o’i filltir sgwâr yn y dref ger y lli.
Mae’r casgliad o ganeuon yn trafod y drwg a’r da o fywyd yn yr ardal, gyda detholiad o ganeuon sy’n amrywio rhwng y dwys a’r dychanol, o ganu protest i ganu gwlad.
Yn ymuno â Steff ar yr albwm mae gweddill aelodau Bwca sef Rhydian Meilir Pughe, Kristian Jones, Nick Davalan, Ffion Evans ac Iwan Hughes. Mae Ifan Jones a Dilwyn Roberts-Young hefyd yn ymuno ar ambell gân.
Recordiwyd y casgliad yn Stiwdio Sain gydag Ifan Jones ac Osian Williams o gwmni cynhyrchu Drwm, ac mae’r albwm yn cael ei ryddhau gan label Recordiau Hambon. Yr artist Lois Ilar sy’n gyfrifol am y gwaith celf trawiadol.