Rhyddhau Albwm Ciwb

Mae’r grŵp o gerddorion cyfarwydd a ffurfiodd yn ystod y cyfnod clo, Ciwb, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?

Ciwb ydy prosiect newydd Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams, ac yn ystod y cyfnod clo fe ddechreuodd y pedwar greu fersiynau newydd o ganeuon cyfarwydd dros y sgrin gan ddefnyddio app Acapela.

Ar gyfer yr albwm newydd mae’r grŵp wedi cydweithio gyda naw o artistiaid cyfarwydd arall eraill i recordio deg fersiwn newydd o ganeuon cyfarwydd sy’n dod o ôl gatalog helaeth label recordiau Sain. Yn ôl y grŵp a’r label mae’r albwm hefyd yn ddathliad o gyfraniad yr artistiaid gwreiddiol a’r cyfansoddwyr i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Cyfro clasuron

Wedi cychwyn recordio a threfnu fersiynau newydd o ganeuon poblogaidd dros y cyfnodau clo cyhoeddodd Ciwb a Malan eu fersiwn newydd nhw o ‘Smo Fi Ishe Mynd’ gan Edward H Dafis.

Arweiniodd hyn at y syniad o greu albwm yn llawn o drefniannau newydd o ganeuon apelgar a ryddhawyd ar label Recordiau Sain dros y degawdau.

Mae’r caneuon yn cynnwys rhai o glasuron y 70au fel ‘Nos Ddu’ gan Heather Jones, ‘Methu Dal y Pwysa’ gan Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr a ‘Ble’r Aeth yr Haul?’ gan Huw Jones.

Mae’r 1980au yn cael eu cynrychioli gan y caneuon ‘Da ni’m yn rhan’ gan Maffia Mr Huws, yr hwyliog ‘Ofergoelion’ gan Tecwyn Ifan a’r ffynci ‘Gwawr Tequila’ Bando.

Ac yna i’r 1990au lle ceir fersiwn newydd o  ‘Dagrau o Waed’ gan Sobin a’r Smaeliaid, ‘Rhydd’ gan Hanner Pei a fersiwn wahanol o’r ffefryn gwerinol gan Siân James, ‘Pan ddo’i adre’n ôl’.

Mae’r record yn cloi gyda Rhys Gwynfor yn perfformio fersiwn newydd o gân enwog Meic Stevens ‘Mynd i ffwrdd fel hyn’, sef y gân sy’n cynnwys teitl yr albwm yn ei chytgan cofiadwy.

Rhaglen deledu Ciwb

Yn ôl Sain mae hwn yn albwm sy’n destament i apêl parhaol rhai o ganeuon gwych y gorffennol gyda phob trac yn arddangos arddull unigryw yr amrywiol artistiaid a’r cyfan wedi’i glymu ynghyd gan ddoniau cerddorol Ciwb.

I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm darlledwyd rhaglen yn dilyn Ciwb ar S4C nos Sadwrn diwethaf, 17 Gorffennaf dan yr enw Ciwb: Caneuon Sain o’r Archif.

Roedd y rhaglen yn bwrw golwg ar siwrne’r band newydd sbon yma wrth iddyn nhw recordio albwm arbennig gyda gwesteion gwahanol yn ymuno i ganu’r caneuon. A hyn oll mewn pum niwrnod yn unig.

Rhestr Traciau’r albwm yn llawn

Nos Ddu
Gwawr Tequila (gyda Mared Williams)
Methu Dal y Pwysa (gyda. Alys Williams)
Ofergoelion (gyda Iwan Fôn)
Dagrau o Waed (gyda  Osian Huw Williams)
Rhydd (gyda Heledd Watkins)
Da Ni’m Yn Rhan (gyda Joseff Owen)
Pan Ddo’i Adre’n Ôl (gyda Lily Beau)
Ble’r Aeth y Haul (gyda Dafydd Owain)
Mynd i Ffwrdd Fel Hyn (gyda Rhys Gwynfor)

Dyma ‘Gwawr Tequila’ gyda Mared Williams: