Rhyddhau Albwm Cwtsh

Mae’r grŵp sydd wedi sefydlu ei hunain yn ystod 2020 gyda chyfres o senglau, Cwtsh, bellach wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 26 Chwefror.

‘Gyda’n Gilydd’ ydy enw’r record hir newydd gan y triawd o gerddorion profiadol sydd wedi dod ynghyd i ffurfio Cwtsh.

Mae ar gael yn ddigidol yn unig ar hyn o bryd ar safle Bandcamp Cwtsh, ond y bwriad ydy rhyddhau fersiwn CD hefyd pan fydd cyfyngiadau’r pandemig yn llacio, a chyfle i’r band ddechrau gigio.

Aelodau Cwtsh ydy Alys Llywelyn-Hughes, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Lunar Glass; Siôn Lewis, fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau ac Y Profiad yn y gorffennol; a Betsan Haf Evans sydd wedi bod mewn llwyth o fandiau gan gynnwys Y Panics, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga ac y Gwdihŵs. Mae Betsan hefyd yn aelod o’r grŵp rockabilly newydd, Pwdin Reis, ar hyn o bryd.

Daeth y grŵp i amlygrwydd gyntaf wrth ryddhau’r sengl ‘Gyda Thi’ ym mis Mehefin 2020.

Mae dwy sengl wedi dilyn honno sef ‘Cymru’ a ryddhawyd ym mis Medi, ac ‘Ein Trysorau Ni’ a ryddhawyd ddechrau mis Rhagfyr.

Ffynnu er gwaethaf heriau

Mae’n deg dweud bod Cwtsh yn un o’r grwpiau hynny sydd wedi llwyddo i ffynnu yn ystod 2020 er gwaetha’r cyfyngiadau, ac mae’r ffaith eu bod bellach wedi rhyddhau albwm llawn yn gadarnhad o hynny.

Oherwydd y cyfyngiadau, mae’r grŵp wedi gorfod gwneud llawer o’r gwaith cyfansoddi a recordio ar gyfer yr albwm o hirbell.

Wedi dweud hyn, pan oedd modd gwneud hynny fe lwyddodd y tri i ddod ynghyd am ryw chwe diwrnod yn y stiwdio i wneud llawer o waith recordio’r deg trac sydd ar y casgliad.

Fe gyhoeddodd Y Selar gyfweliad sain gyda’r grŵp yn trafod y broses yma, a’r modd maen nhw wedi llwyddo i gydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf, ar y wefan wythnos diwethaf.