Rhyddhau albwm cyntaf BOI

Mae’r grŵp newydd sy’n cynnwys casgliad o gerddorion amlycaf Cymru, BOI, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 25 Mehefin.

‘Coron o Chwinc’ ydy enw record hir y grŵp sydd wedi cael ei ryddhau ar label Recordiau Crwn.

Mae BOI yn cyfuno doniau dau o gyn-aelodau’r grŵp poblogaidd o’r 90au a’r 00au, Beganifs / Big Leaves, gyda rhai o gerddorion mwyaf talentog y sin ar hyn o bryd.

Osian Gwynedd sydd ar yr allweddellau a Rhodri Sion ydy prif ganwr BOI, gan ddod a’r ddau yn ôl ynghyd ar ôl treulio tua 15 mlynedd gyda’i gilydd fel aelodau o Beganifs a Big Leaves rhwng 1988 a 2003.

Yr aelodau eraill ydy Heledd Mair Watkins (HMS Morris) ar y gitâr fas, Ifan Emlyn (Candelas) ar y gitâr, a Dafydd Owen (Bob, Sibrydion) ar y drymiau.

Themâu mawr ein hoes

Mae BOI yn creu sain mawr, melodaidd, wedi’i yrru’n ddi-drugaredd gan y drymiau a gitars gyda geiriau ac alawon sy’n archwilio’ themâu mawr ei hoes a’n cyflwr dynol.

Daw’r albwm ar ôl cyfres o dair sengl i gynnig blas o’r hyn oedd i ddod – rhyddhawyd ‘Cael Chdi Nôl’ ddiwedd mis Ebrill, ‘Ribidires’ ym mis Mai, a ‘Tragwyddoldeb’ ar ddydd Gwener 18 Mehefin. Mae fideos wedi’u cyhoeddi ar-lein i gyd-fynd â’r senglau hyn hefyd.

Recordiwyd y 10 trac oddi ar “Coron O Chwinc” mewn amryw o leoliadau gwahanol ledled Cymru, ac yna ei gymysgu gan Dafydd Ieuan (Super Furry Animals).

Bu Osian Gwynedd a Rhodri Siôn yn aelodau o Beganifs/Big Leaves am 15 mlynedd a mwy, gan recordio sawl albwm ac ‘EP’ o dan labeli amrywiol, gyda chaneuon poblogaidd yn cynnwys ‘Seithenyn’, ‘Meillionen’, ‘Cwcwll’ a llawer mwy.

Bu’r grwp yn llwyddiannus ar lefel leol, drwy Gymru gyfan a phrofi peth llwyddiant yn teithio o gwmpas y DU a thu hwnt gyda bandiau megis Catatonia a Super Furry Animals.

Mae Osian wedi parhau’n weithgar ar y sin gerddoriaeth dros y blynyddoedd, yn aelod o The Peth a Sibrydion, ac yn ddiweddarach yn perfformio fel rhan o fandiau byw Gruff Rhys a Mr. Er hynny, bu i Rhodri gilio ar gerddoriaeth a throi i ganolbwyntio a rei yrfa actio – BOI ydy ei fan cyntaf ers i Big Leaves chwalu yn 2003.

Mae modd cael gafael ar yr albwm yn ddigidol ac ar CD ar safle Bandcamp BOI.

Gallwch ddarllen mwy am yr albwm, a hanes y grŵp yn ein cyfweliad arbennig diweddar gyda Rhodri Siôn.

Roedd cyfle cyntaf i weld y fideo gwefreiddiol o Rhodri ac Osian yn perfformio trac olaf yr albwm, ‘Tragwyddoldeb’, ar lwyfan y Galeri, Caernarfon ar wefan Y Selar yn ddiweddar. Dyma’r fideo eto: