Rhyddhau albwm cyntaf Cwmwl Tystion

Mae’r grŵp jazz, Cwmwl Tystion, wedi rhyddhau albwm sy’n rhannu enw’r grŵp ers dydd Gwener diwethaf, 5 Mawrth.

Y cerddor jazz arbrofol a thrwmpedwr uchel ei barch, Tomos Williams, sy’n arwain prosiect Cwmwl Tystion, ac mae’n tynnu ar gymorth rhai o artistiaid amlycaf Cymru.

Mae aelodau’r band yn cynnwys y telynor arbrofol, Rhodri Davies, y pianydd Huw Warren a Francesca Simmons ar y ffidil a’r llif.

Mae’r cerddorion eraill sy’n cyfrannu i’r prosiect yn cynnwys Huw V Williams (bas), Mark O’Connor (drymiau), Simon Proffitt (celf weledol).

Dathlu a chwestiynu

Roedd sefydlu’r band a chyfansoddi’r gerddoriaeth yn ffrwyth syniadau, dyheadau ac ysbrydoliaeth Williams yn ymwneud â Chymru: ei hanes a’i diwylliant a chwestiwn hunaniaeth, ddoe a heddiw.

Daw’r teitl ‘Cwmwl Tystion’ o’r Beibl yn wreiddiol, ond fe’i dyfynnir yn y fan hon o gerdd y bardd, yr heddychwr a’r cenedlaetholwr Waldo Williams (1904-1971), Pa Beth yw Dyn? ble mae’r bardd yn gofyn rhai o gwestiynau mawr ein bod.

“Cefais fy ysbrydoli gan gerddoriaeth pobl fel Wadada Leo Smith, Ambrose Akinmusire a Matana Roberts a theimlo ei bod yn bryd cynnig darn a fyddai’n gyfraniad at y llinach honno o safbwynt Cymreig” meddai Tomos Williams.

“Y bwriad oedd creu gwaith newydd a fyddai’n dathlu ac yn cwestiynu’r hyn y mae’n ei olygu i uniaethu fel Cymro/Cymraes drwy gyfeirio at a chodi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau hanesyddol.”

Dathliad o dirwedd Cymru

Mae’r casgliad ‘Cwmwl Tystion / Witness’ yn cael ei ddisgrifio fel ‘suite’ o gerddoriaeth. Cychwyna’r suite fel dathliad o dirwedd Cymru.

Yna mae’r symudiad olaf yn cyfeirio’n uniongyrchol at gerdd Waldo ac yn ceisio arwain y gwaith y tu hwnt i ffiniau hunaniaeth genedlaethol.

Mae Pa Beth yw Dyn? Yn cynnwys yr alawon gwerin Castell Rhos y Llan, Lloer Dirion a Marwnad yr Ehedydd. Alaw Gymreig draddodiadol yw Glyn Tawe.

Er mai dyma gynnyrch cyntaf Cwmwl Tystion, teithiodd y band o amgylch Cymru cyn-COVID, a perfformio yn Llundain ym mis Mehefin 2019. Recordiwyd y CD yng Nghanolfan Taliesin Arts Centre, Abertawe ac yng Nghafe OTO, Llundain. Fe ategwyd pob perfformiad gan gelfyddyd weledol fyw Simon Proffitt.

Mae’r record yn cael ei ryddhau gan Tŷ Cerdd ac ar gael yn ddigidol ac ar ffurf CD.