Mae Morgan Elwy wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 7 Mai.
Mae’r cerddor o Ddyffryn Clwyd yn gyfarwydd ers rhai blynyddoedd fel aelod o’r grŵp Trŵbz ond wedi dechrau gwneud enw i’w hun fel artist unigol ers dechrau’r flwyddyn gyda chyfres o senglau.
Rhyddhaodd ei drydedd sengl unigol, ‘Curo ar y Drws’ ar 16 Ebrill fel tamaid olaf i aros pryd cyn cyhoeddi’r albwm, ‘Teimlo’r Awen’.
Roedd dwy sengl gyntaf Morgan, ‘Aur Du a Gwyn’ (Chwefror) a ‘Bach o Hwne’ (Mawrth), yn ganeuon gyda sŵn reggae cryf iddynt tra bod ‘Curo ar y Drws’ yn cyffwrdd ag elfennau mwy seicadelig gwerinol Cymraeg.
Deg o draciau sydd ar yr albwm, yn seiliedig ar rythmau reggae yn bennaf ond gydag elfennau o gerddoriaeth werin, roc a phop hefyd.
Y cerddorion eraill sy’n cyfrannu at y gwaith recordio ydy Leon Davies ar y drymiau, Mali Elwy fel llais cefndir a Mared Williams ar yr allweddellau a llais cefndir. Mei Gwynedd sydd wedi cymysgu’r casgliad.
Label Bryn Rock, sy’n cael ei redeg gan frawd Morgan, sef y cerddor Jacob Elwy, sy’n rhyddhau’r record hir gyntaf gan fasydd Trŵbz.
Mae’r albwm yn cael ei ryddhau ar fformat CD yn ogystal ag yn ddigidol, ac mae cyfle i brynu copïau ar safle Bandcamp Morgan.