Mae’r grŵp Rockabily o’r gorllewin, Pwdin Reis, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 3 Medi.
‘Neis Fel Pwdin Reis’ ydy enw’r albwm newydd sydd allan ar label Recordiau Rosser.
Mae’r grŵp wedi rhyddhau cyfres o senglau fel rhagflas i’r albwm gan gynnwys ‘Styc Gyda Ti’ a ryddhawyd ar 20 Awst. Hon oedd y chweched sengl gan Pwdin Reis gan gynnwys ‘Galwa Fi’ ym mis Chwefror eleni sydd wedi bod yn ffefryn ar y tonfeddi.Mae
Pwdin Reis yn fand cymharol newydd sy’n cyfuno doniau pedwar o gerddorion profiadol iawn. Yr aelodau ydy Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).
Roedd lansiad swyddogol yr albwm yn y Parrot yng Nghaerfyrddin nos Wener diwethaf, 3 Medi.
Dyma ‘Styc Gyda Ti’: