Rhyddhau albwm Kizzy Crawford

Mae Kizzy Crawford wedi rhyddhau ei halbwm newydd, ‘Rhydd’, ers dydd Gwener diwethaf, 26 Tachwedd. 

Dyma fydd ail albwm llawn Kizzy yn dilyn ‘The Way I Dream’ a ryddhawyd yn Hydref 2019, ond ei halbwm Cymraeg cyntaf, a’r cyntaf hefyd iddi ryddhau ar label Recordiau Sain. 

Daeth Kizzy, a ddaw o Ferthyr Tydfil yn wreiddiol, i’r amlwg rai blynyddoedd yn ôl fel artist ifanc, ffresh a soffistigedig hynod o addawol. Erbyn hyn mae wedi sefydlu ei hun fel un o gerddorion cyfoes mwyaf blaengar Cymru. 

 Mae ‘Rhydd’ yn albwm hynod o bersonol ar fwy nag un lefel. Recordiwyd, cynhyrchwyd a chymysgwyd yr albwm gan Kizzy yn ei stiwdio gartref a hi hefyd sy’n chwarae’r holl offerynnau ar y casgliad.

Mae’r gymysgedd o ganeuon, rhai a gyfansoddwyd ganddi rai blynyddoedd yn ôl ac eraill yn ganeuon mwy diweddar, yn adlewyrchu taith Kizzy o iachâd a thyfu ac yn myfyrio ar y profiad o ddod i adnabod a derbyn ei hunan. 

Wedi sawl profiad anodd dros y blynyddoedd mae ysgrifennu a chyfansoddi yn fodd i gyfathrebu, i rannu, i wella ac i ffynnu, ac, yn y pen draw, yn allwedd i ganfod y rhyddid sy’n hanfodol i dyfu a pharhau. 

Drwy’r cyfuniad unigryw yn y Gymraeg o jazz enaid-gwerin, mae’r albwm yn un sy’n tywys y gwrandäwr ar daith ddidwyll, felfedaidd a chyffrous i fyd lle nad oes ffiniau na rhwystrau. Yn lleisiol, yn offerynnol ac yn eiriol mae’r gantores yn arbrofi’n barhaus â’r rhythmau a’r alawon yn ymdoddi i’w gilydd gan roi balm gogleisiol i’r enaid a phrocio ein meddylfryd saff yr un pryd.

Dyma’r trac ‘Sbio’ o’r albwm newydd: