Rhyddhau albwm ‘Mas’ gan Carwyn Ellis a Rio 18

Mae albwm newydd Carwyn Ellis a Rio 18 allan rŵan gan ddod ag ychydig o heulwen De America i’n bywydau yma yng Nghymru fach.

Mas ydy enw ail record hir un o brosiectau diweddaraf y cerddor dawnus Carwyn Ellis sy’n gyfrifol hefyd y grwpiau Colorama a Zarelli, ac sydd hefyd yn aelod o fandiau enwog The Pretenders ac Edwyn Collins.

Rydym eisoes wedi cael blas o’r hyn sydd i ddod ar yr albwm diolch i’r senglau ‘Ar ôl y Glaw’ a ryddhawyd ym mis Tachwedd, a hefyd y sengl ‘Lawr yn y Ddinas Fawr’ a ryddhawyd ar 29 Ionawr. 

Label Banana & Louie Records sy’n rhyddhau’r albwm, ac mae wedi bod ar gael i’w rag archebu ar safle Bandcamp Carwyn Ellis & Rio ’18 ers peth amser. Yn wir, mae fersiwn feinyl y record eisoes wedi gwerthu allan, ond mae copïau CD dal ar gael i’w prynu.  

‘Joia!’ oedd enw albwm cyntaf y prosiect Rio 18 a ryddhawyd yn 2019 ac sy’n cynnwys y traciau poblogaidd ‘Tywydd Hufen Ia’ a ‘Duwies y Dre.

Fel yr albwm cyntaf, mae’r albwm newydd wedi’i gynhyrchu gan y cynhyrchydd amlwg o Frasil, Kassin ar wahan i ddau drac sydd wedi’u cynhyrchu gan Shawn Lee. Mae’r gwaith celf gan yr artist Diego Medina.

Mae’r casgliad yn byrlymu o synau pop bachog gyda blas De Americanaidd cryf – o gerddoriaeth Samba i Cumbia, Salsa a Tropicalismo.

Mae nifer o gerddorion o Dde America yn ymddangos ar y caneuon, yn ogystal â’r chwiorydd o Gymru, Elan a Marged Rhys sydd wrth gwrs yn gyfarwydd fel aelodau o Plu.

Dyma’r fideo ar gyfer y sengl gyntaf, ‘Ar ôl y Glaw’: