Rhyddhau albwm Pys Melyn

Mae Pys Melyn wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf  ddydd Gwener diwethaf.

Bywyd Llonydd ydy enw’r record hir sydd allan ar label Ski Whiff, sef y label recordiau sy’n cael ei redeg gan aelod Pys Melyn, Ceiri Humphreys.

Mae’r albwm yn cynnwys deg o draciau gan y prosiect a dyfodd o ludw’r grŵp ysgol, Ffracas gan gynnwys y trac teitl poblogaidd, a’r sengl ddiweddaraf ‘Laru’.

Cafodd ‘Laru’ ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen BBC Radio Cymru y cyflwynydd Sian Eleri wythnos diwethaf.

Ceiri Humpheys sy’n bennaf gyfrifol am Pys Melyn, ond mae’r band byw yn cynnwys Sion Adams, Jac Williams, Owain Lloyd a Magi Tudur.

Mae’r albwm wedi’i recordio yn stiwdio Ceiri ym Mhentreuchaf, ac ef sy’n gyfrifol am chwarae pob offeryn ar y recordiad, yn ogystal â chynhyrchu’r albwm.

Dyma ‘Laru’: