Rhyddhau albyms Datblygu yn Yr Eidal

Wrth i ni weld adfywiad mewn recordiau feinyl dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn gyffredin gweld ail-gyhoeddi clasuron o’r gorffennol gan fandiau mawr.

Am ryw reswm, mae labeli Cymraeg wedi bod yn gyndyn i ryddhau ambell glasur prin o’r 1970au neu 1980au fel reissues, er gwaethaf ambell awgrym cryf gan Y Selar ac eraill y dylen nhw ystyried gwneud hynny!

Wedi dweud hynny, mae rhai labeli o wledydd tramor wedi bod yn fwy mentrus ac rydym wedi gweld label o Loegr yn ail-ryddhau record Brân a label o’r Almaen yn rhyddhau casgliad Malcolm Neon dros y blynyddoedd diwethaf.

Yr esiampl diweddaraf o hyn ydy hwnnw o label annibynnol o’r Eidal yn ail-ryddhau dau o albyms y grŵp Cymraeg eiconig, Datblygu.

Hate Records ydy enw’r label, ac maen nhw wedi rhyddhau nifer cyfyngedig  350 o gopïau o albyms ‘Wyau’ (HATE 48) a ‘Pyst’ (HATE 49).

Er i Datblygu ryddhau albyms ar ffurf casét gyda label Casetiau Neon cyn hynny,  ‘Wyau’ a ‘Pyst’ oedd y ddwy record hir gyntaf iddynt ryddhau ar feinyl, ac maen nhw’n cael eu gweld fel recordiau hynod arwyddocaol, a gafodd ddylanwad mawr ar nifer o’r bandiau Cymraeg a ddaeth wedi hynny.

Mae’n briodol felly bod y recordiau’n cael eu hail-ryddau ar ffurf feinyl nifer cyfyngedig yn Yr Eidal.

Rhyddhawyd ‘Wyau’ ar label Recordiau Anhrefn ym 1988, cyn i ‘Pyst’ ddilyn ym 1990 ar label OFN, sef label y cynhyrchydd gwych Gorwel Owen.

Dyma fydd yr ail waith i’r recordiau gael ei hail-gyhoeddi mewn gwirionedd gan bod label Ankstmusik wedi cyhoeddi casgliad o’r pâr o albyms ar CD a chasét ym 1995.

Awchu i ail-ryddhau

Mae label Hate Records yn cael ei redeg gan Pierluigi Bella yn Rhufain, ac maent wedi ail-ryddhau recordiau gan grwpiau new wave a pync o ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au o bob rhan o’r byd yn y gorffennol.

Mae’n debyg bod Pierluigi wedi datblygu diddordeb yn Datblygu ers y 1990au pan gafodd ei gyflwyno i’r grŵp fan ffrind, ac mae wedi bod yn awchu i ail-ryddhau recordiau’r grŵp yn Yr Eidal.

Dywed bod recordiau’r grŵp yn amosib cael gafael arnynt, a’i fod yn adnabod sawl person oedd yn awyddus i wneud hynny.

“Mae’r labwl wedi bod yn rhyddhau recordiau gan fandiau new wave a pync o ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au ers amser” meddwi Pierluigi wrth sgwrsio â’r Selar.

“Rydym hefyd wedi bod yn ffans mawr o Datblygu ers i ni ddod ar eu traws eu recordiau mewn cartref ffrind i ni ar ddechrau’r 90au, ac wedi bod eisiau ail-ryddhau eu recordiau gan ein bod yn caru eu cerddoriaeth.”

Ffilm ddogfen yn agor y drws

Y ffrind a gyflwynodd Pierluigi i’r grŵp o Aberteifi ydy Gisella Albertini, gwneuthurwr ffilm o’r Eidal sydd wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg ar wefannau SaySomethinginWelsh a Duolingo wrth gynhyrchu’r ffilm ddogfen ‘This Film Should Not Exist’.

“Yng nghanol y 90au, ro’n i’n siarad gyda Ben Waller o’r band Country Teasers [grŵp a ffurfiodd yng Nghaeredin ar ddechrau’r 1990au] ac fe soniodd am fand Cymraeg oedd yn un o’i hoff fandiau erioed” meddai Gisella wrth Y Selar wrth egluro o ble ddatblygodd y diddordeb yn y grŵp.

“Nes i ddim dal yr enw, ond ychydig flynyddoedd wedyn nes i ddigwydd dod ar draws y casgliad ‘1985-1995’ [y casgliad a ryddhawyd gan label Ankstmusik ym 1999] rhywle ar y we a sylweddoli mai nhw oedden nhw.

“Ro’n i wir yn hoffi’r record, yn syml gan mai dyna’r math o gerddoriaeth dwi’n mwynhau. Ond hefyd, cefais fy synnu bod yr iaith jyst yn swnio’n awsome!”

Yn 2018 roedd Gisella’n gweithio ar y ffilm am Ben Wallers a’r Country Teasers, ac roedd yn awyddus i Datblygu fod yn y ffilm mewn rhyw ffurf, a dyna ddechrau ar ddiddordeb o’r newydd yn y grŵp. Bu iddi gyfweld Pat Morgan a David R. Edwards o’r band wrth greu’r ffilm.

“Nes i ddechrau chwilio am fwy o wybodaeth am y band, i weld beth oedden nhwn canu amdano.

“Ond roedd popeth wedi’i ysgrifennu yn y Gymraeg ac, wel…mae Google translate mor wael gyda’r Gymraeg yn gyffredinol, ac yn warthus gyda geiriau caneuon.

“Nes i ddarganfod cyfieithiad o [eiriau] ‘Hwgr-Grawth-Og’ ar Discogs, ac ro’n i’n caru’r hiwmor a steil.”

Felly dyna fynd ati i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu deall rhagor, gan fynd ati hefyd i gysylltu â Dave Datblygu ac Emyr Ankstmusic i drefnu’r hawliau ar gyfer defnyddio deunydd amrywiol yn y ffilm.
“Nes i gysylltu gyda Pat trwy’r cyfryngau cymdeithasol i weld fyddai hi a Dave yn fodlon cael eu cyfweld ar gyfer y ffilm. Fe gytunodd, a nes i ffeindio hediad rhad i Gymru ar gyfer y cyfweliadau.
“Mae’r ddau ohonyn nhw’n bobl gwych, neis, hwyliog ac anhygoel ac fe wnaethon ni gadw mewn cysylltiad dros y we gyda Pat, a thry ddulliau mwy traddodiadol fel llythyrrau a dros y ffôn gyda Dave, sydd ddim yn hoff o dechnole newydd.”

Ar ôl gweld y ffilm, roedd Pierluigi yn awyddus i ail-ryddhau recordiau Datblygu, felly gofynodd i Gisella holi David ac Emyr yn Anksmusik a fydden nhw’n fodlon i Hate Records wneud hynny.

Daeth cytundeb yn sgil hynny i’r label ryddau’r ddau albwm, a dyna ni, 350 o gopïau o’r recordiau ar label Eidalaidd!

Mae’n werth nodi bod ffilm Gisella wedi bod yn dipyn o lwyddiant mewn gwyliau ffilm ac ati – dyma ragflas i’r ffilm sy’n cynnwys pytiau gan Dave a Pat: