Mae Geraint Rhys wedi rhyddhau ei bumed trac o’r flwyddyn, a’i olaf o 2021.
‘Boddi’ ydy enw sengl ddiweddaraf y cerddor cynhyrchiol o Abertawe ac mae’n dilyn yn fuan ar ôl y ddiwethaf, ‘Gyda Ni’, a ryddhawyd ym mis Medi.
Er hynny, mae’r trac yn symud i ffwrdd o’r dylanwad pop oedd yn amlwg iawn ar ‘Gyda Ni’, ac yn mynd i gyfeiriad sŵn roc ‘Boddi’ sydd wedi’i ddylanwadu’n glir arno gan gerddoriaeth syrff roc ac ôl-bync.
Ar ‘Boddi’ mae Geraint yn defnyddio sŵn mwy uniongyrchol, llawn egni ac angerdd sy’n adlewyrchu themâu tywyll y trac.
“Dros y cyfnod clo wnes i recordio lot o syniadau cerddorol yn y tŷ” eglura Geraint.
“Oherwydd bod ymweld â’r stiwdio yn amhosib roedd hyn yn golygu fod rhaid cadw pethau yn eithaf syml.
“Felly dwi wedi ysgrifennu lot o demos gyda jyst y gitâr a bass, gyda’r ddau offeryn yna yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith.”
Ond er bod sŵn ‘Boddi’ yn reit wahanol i ‘Gyda Ni’, mae un dylanwad amlwg yn gyffredin rhwng y ddwy sengl yn ôl Geraint.
“Yn ystod y cyfnod yma ro’n i hefyd yn gwrando ar lot o gerddoriaeth indie pop a post punk ac felly mae’r gân yn cymryd yr elfennau yma a’u troi nhw mewn i floedd ar fregusrwydd bywyd a sut mae amser yn newid yn gyflym heb sylweddoli.
“Fel fy nhrac mwyaf diweddar, ‘Gyda Ni’, mae’r môr eto’n ysbrydoliaeth, ond y tro yma i archwilio teimladau mwy tywyll.”
Yn nhraddodiad senglau Geraint Rhys, mae hefyd yn cyhoeddi fideo i gyd-fynd â ‘Boddi’ a bydd hwn yn cael ei ryddhau ar-lein dros y penwythnos.
Dyma ‘Boddi’: