Rhyddhau casgliad cyflawn Y Diliau

Mae label Recordiau Sain wedi bod yn brysur yn ail ryddhau cynnyrch amrywiol o’u harchif dros y misoedd diwethaf, a’r esiampl diweddaraf ydy casgliad cyflawn o draciau Y Diliau, a ryddhawyd yn ddigidol am y tro cyntaf ddydd Gwener diwethaf, 21 Mai.

Triawd o ferched o Lanymddyfri oedd Y Diliau, sef Lynwen Jones, Mair Davies a Meleri Evans ac fe ffurfiodd y grŵp tua 1964 yn Ysgol Pantycelyn yn y dref gan berfformio gyntaf mewn noson lawen a drefnwyd gan Blaid Cymru.

Gyda chanu pop yn dal i fod yn beth newydd yn y Gymraeg, roedd Y Diliau yn torri tir newydd gydag asiad lleisiol hyfryd a pherffeithrwydd syml eu canu, ac yn fuan iawn daeth gwahoddiadau i berfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen ledled y wlad.

O dan ddylanwad cantorion fel Bob Dylan, Julie Felix a’r Womenfolk cawsant eu hysbrydoli i greu sain boblogaidd, werinol, unigryw Gymreig gan anadlu bywyd newydd i’r sin yng Nghymru.

Yn wahanol i nifer o grwpiau eraill y cyfnod cafodd Y Diliau enwogrwydd y tu allan i Gymru, gan ganu yn nifer o wledydd Ewrop, gan gynnwys yn Llydaw gydag arloeswr canu Celtaidd y 70au, Alan Stivell.

Newid aelodaeth

Erbyn 1968 ymunodd Gaynor John (fu hefyd yn aelod o grŵp arloesol Y Cwennod) â’r grŵp ac am gyfnod roedd Y Diliau yn bedair.  Ond yn fuan gadawodd Lynwen gan adael tair unwaith eto – Mair, Meleri a Gaynor.

Rhyddhawyd record gyntaf Y Diliau dan yr enw syml ‘Caneuon Y Diliau’ ar label Cymreig enwog Qualiton ym 1965.

EP pump trac oedd y record gyntaf, ac fe ryddhawyd cyfres o EPs eraill ganddynt dros y degawd canlynol ar labeli Qualiton, Dryw, Cambrian a Sain. Yna, ym 1978 daeth unig albwm y grŵp, sef Tân neu Haf, ar label Gwerin.

Llwyddodd Y Diliau i recriwtio rhai o fawrion y genedl fel ffans, ac ar glawr eu pedwaredd record, i label Dryw yn 1970, dywedodd Ryan Davies iddo gael ei swyno mewn cyngerdd yn Llundain gan grŵp y Womenfolk, ac na “chlywodd leisiau yn asio mor berffaith i’w gilydd” a chredai na chlywai hynny fyth chwaith, ond yna clywodd Y Diliau…

Roedd seren byd rygbi’r 70au, Barry John, hefyd yn hoff iawn o’r Diliau ac ef fu’n eu canmol ar glawr eu record yn 1972, gan ddweud mai “un o bleserau mawr bywyd yw eistedd, ymlacio ac ymollwng i swyn a chyfaredd eu cynghanedd…”

Cynulleidfa  newydd

Roedd Y Diliau yn esiampl dda o ganu pop ar y pryd gyda repertoire o ganeuon gwreiddiol, caneuon gwerin Cymreig a rhyngwladol, caneuon Americanaidd wedi eu cyfieithu a chaneuon crefyddol.

Ond roedden nhw hefyd yn ddigon arloesol o safbwynt canu yn y Gymraeg hefyd gydag agwedd broffesiynol at eu cerddoriaeth.

Gyda rhyddhau’r casgliad o’u caneuon dros y blynyddoedd, mae Recordiau Sain yn gobeithio cynnig cyfle i ail fyw neu i brofi o’r newydd y grŵp benywaidd arloesol a osododd safon ar gyfer canu harmoni yng Nghymru.