Eirin Peryglus ydy’r grŵp diweddaraf o’r gorffennol i ryddhau eu holl gatalog yn ddigidol am y tro cyntaf.
Bydd ôl-gatalog sylweddol y grŵp, a ryddhawyd drwy label Ofn y cynhyrchydd adnabyddus, Gorwel Owen, yn glanio ar y llwyfannau digidol arferol am y tro cyntaf ar 3 Rhagfyr.
Ffurfiwyd Eirin Peryglus yn 1986 pan gyfarfu Robin (allweddellau) â Fiona (lleisydd) tra’n recordio gyda’i fand synth-pop Second Thoughts. Pan chwalodd Second Thoughts, fe gychwynnodd y ddau gydweithio ac fe ymunodd Alun (gitarydd – oedd hefyd yn aelod o Chwyldro) i gwblhau triawd Eirin Peryglus.
Yn Awst 1986 fe chwaraeodd y tri eu gig cyntaf yn y digwyddiad chwedlonol ‘Tethau yn Ffrwydro gyda Mwynhad’ yn Aberystwyth. Yn 1987 fe ymddangosodd eu sengl gyntaf ‘Bronson / Y Dyn Newydd’ wedi ei chynhyrchu gan Gorwel Owen, oedd yn ŵr i Fiona, ar label newydd Ofn.
Dilynwyd y sengl gan gyfres o senglau, casetiau ac EPs gan gynnwys ‘Dafydd yn Gwneud Teisen / Merthyr’ a ‘Y Llosg’, ac yn ogystal â chefnogaeth allweddol rhaglenni teledu Fideo 9 a Y Bocs, a Radio Cymru, fe gychwynnodd y cyflwynydd Radio 1 chwedlonnol, John Peel, chwarae EP 12” ‘Y Llosg’ ar brif orsaf radio Prydain.
Rhyddhawyd unig albwm llawn y band, ‘Noeth’, ym 1992. Ar ôl rhyddhau’r cryno-albwm ‘Lleuad Mehefin’ daeth diwedd naturiol i gyfnod y band a gadawodd Ałun i fyw yn Kenya yn 1994 am gyfnod o saith mlynedd ar hugain.
Grŵp arloesol
Roedd Eirin Peryglus yn unigryw, ac yn cael eu gweld yn arloesol fel grŵp oedd yn cyfuno electroneg gyda gitars ac alawon pop cryf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar ben hynny roedden nhw hefyd yn arloesol yn eu gwleidyddiaeth gyda chaneuon yn ymdrin â phynciau megis hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd yn ogystal â gigs a chyfraniadau at gasgliadau gan fudiadau megis Cymdeithas yr Iaith, PAWB, Artists for Animals a mwy.
Gyda chynhyrchu beiddgar a chreadigol Gorwel a’r ffaith i’r holl recordiau gael eu rhyddhau ar label dylanwadol Recordiau Ofn yn gefndir i’r cwbl, mae gyrfa Eirin Peryglus wedi ysbrydoli nifer o artistiaid, cynhyrchwyr a labeli eraill ac mae’r catalog yn aros fel cofnod o gyfnod byrlymus ac allweddol yn hanes canu pop Cymraeg. Mae’r traciau ‘Merthyr’, ‘Y Cyfarfod’ ac ‘Anial Dir’ ymysg y rhai mwyaf cyfarwydd ganddynt.
Mae’r casgliad helaeth o ganeuon wedi eu hail-fastro gan Donal Whelan yn Stiwdio Hafod Mastering er mwyn eu rhoi ar y llwyfannau digidol.
Mae’r senglau/EP/caset cynnar wedi eu cynnwys ar gasgliad o’r enw ‘Ffrwyth Cynnar’ ynghyd â’r albwm ‘Noeth’ a’r albwm-fer ‘Lleuad Mehefin’.
Rhestr lawn y caneuon fydd yn cael eu rhyddhau’n ddigidol am y tro cyntaf:
Ffrwyth Cynnar (1987-1990)
1 Bronson
2 Y Dyn Newydd
3 Merthyr
4 Dafydd yn Gwneud Teisen
5 Y Llosg
6 Obsesiwn
7 Y Cyfarfod
8 Epilog yn A Fwyaf
9 Dieuog
10 Merthyr (Fersiwn)
11 Trosgynnol 124
12 Epilog (Fersiwn)
Noeth
1 Noeth
2 Angerdd
3 Gwallgofrwydd ’92
4 Anial Dir
5 Edrychais
6 Bregus Fyd
7 Cyfrinach 8 Angerdd (Radio)
9 Rhumba
10 Gwawd
11 Edrychais (Mute)
12 Anial Dir (Bwmix)
Lleuad Mehefin
1 Hedyn Cyntaf
2 Ionawr 2il (Jupiter Mix)
3 Allan o’r Cysgod
4 Lleuad Mehefin
5 Ionawr 2il (Freddy’s Mix)
6 Melyn Mair yr Haf
Dyma fideo’r ardderchog ‘Anial Dir’: