Rhyddhau cryno albwm Ratatosk

Mae cryno albwm newydd gan brosiect unigol un o aelodau’r grŵp amlwg Right Hand Left Hand wedi’i ryddhau ers dydd Gwener 16 Gorffennaf.

Ratatosk ydy enw prosiect unigol Rhodri Viney sy’n disgrifio’r gerddoriaeth fel ‘gwerin trist’.

Mae Rhodri’n gerddor profiadol iawn, ac wedi bod yn cyfansoddi a pherfformio ers dros 20 mlynedd. Mae wedi cael tipyn o lwyddiant gyda Right Hand Left Hand, a enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymnreig yn 2016 a 2020.

Yn y gorffennol, mae Rhodri hefyd wedi rhyddhau cerddoriaeth dan yr enwau Teflon Monkey a Broken Leaf cyn setlo ar brosiect Ratatosk yn 2007. Rhyddhaodd ei record gyntaf fel Ratatosk, ‘The Cecil Sharp Songs’, yn y flwyddyn honno, ac mae wedi rhyddhau 9 o recordiau ers hynny – cwpl o senglau, ond y gweddill yn EPs neu albyms.

Enw’r record newydd wyth trac ydy ‘Yn Canu’ ac mae’n gymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg.

Yn ôl yr artist mae’r record yn ymdrin â’r themâu arferol o arwahanrwydd, y modd mae amser yn pasio’n gyflym, a diwedd popeth – yn aml mewn modd doniol.

Yn gerddorol, dywed Rhodri ei fod yn ymdrechu i wneud rhywbeth mwy cynnil na’i record hir ddiwethaf, ac i ryddhau albwm llai na 40 munud o hyd.

Mae modd prynu’r albwm ar safle Bandcamp Ratatosk ac mae fersiwn CD hefyd ar gael o siop recordiau Spillers yng Nghaerdydd.