Rhyddhau dwy sengl newydd Y Dail

Mae dwy sengl newydd Y Dail allan heddiw.

Enwau’r caneuon newydd gan y prosiect ifanc cyffrous ydy ‘Dyma Kim Carsons’ a ‘The Piper Pulled Down The Sky’.

Prosiect y cerddor 18 oed talentog o Bentre’r Eglwys ger  Pontypridd, Huw Griffiths, ydy Y Dail.

Ffurfiodd y prosiect yn wreiddiol yn 2018 ac mae gweddill aelodaeth y grŵp yn ddibynnol ar argaeledd offerynwyr.

Rhyddhawyd sengl gyntaf Y Dail, sef ‘Y Tywysog a’r Teigr’, ym mis Hydref 2020.

Fe gafodd ymateb ardderchog ar y pryd ac adolygiadau arbennig o ffafriol mewn cylchgronau ac ar flogiau amrywiol. Llwyddodd y trac hefyd i gyrraedd ail safle ‘Siart Amgen 2020 Rhys Mwyn’ ar BBC Radio Cymru.

Rhyddhawyd ail sengl y band, ‘O’n i’n Meddwl Bod Ti’n Mynd i Fod Yn Wahanol’, ym mis Mai 2021. Dewiswyd y sengl yn Drac yr Wythnos ar Radio Cymru, ac fe gafodd adolygiadau da mewn nifer o gylchgronau a blogiau.

Mae’r trac hefyd wedi’i chwarae nifer o weithiau gan Marc Riley ar ei sioe BBC Radio 6 Music, ac fe alwodd y trac yn ‘pop perffaith’.

Nofel Burroughs yn ysgogi traciau

Mae dylanwadau Y Dail yn cynnwys Super Furry Animals, Prefab Sprout cynnar, Television, a girl-group pop y 60au.

Er hynny mae’n tynnu’r ysbrydoliaeth ar gyfer ei senglau diweddaraf o lenyddiaeth, yn ogystal â cherddoriaeth.

“Fe wnes i recordio ‘The Piper Pulled Down the Sky’ a ‘Dyma Kim Carsons’ yn Rhagfyr 2020, ond achos cymhlethdodau Cofid ac arholiadau lefel A wnaethon ni ddim ond gorffen y cymysgu ym mis Awst” meddai Huw wrth Y Selar.

“Mae geiriau’r ddwy gân wedi’u hysbrydoli gan William Burroughs – mae Kim Carsons yn gymeriad o’i nofel The Place of Dead Roads. Roedd gan demo The Piper Pulled Down the Sky teimlad Buzzcocks iddo, ond diweddodd e’ lan yn swnio mwy fel rhai o recordiau’r 70au cynnar dwi’n hoffi, gyda Moog arno a vocals ‘dry’.”

Bydd senglau diweddaraf Y Dail yn siŵr o ddenu hyd yn oed mwy o ddilynwyr i’r grŵp, ac mae’n debyg bod y band yn brysur yn recordio ar gyfer rhagor o senglau yn ogystal ag albwm gyda’r cynhyrchydd Kris Jenkins.

“Yn ogystal â gorffen y senglau, dwi wedi bod yn recordio rhagor o draciau ar gyfer albwm, a gobeithio bydd hynny’n dod allan yn y Gwanwyn 2022” datgelodd Huw wrth Y Selar.

Dywed y cerddor hefyd y gallwn ddisgwyl rhagor o senglau cyn hynny fel rhaglas i’r almwb.

Roedd cyfle i weld perfformiad byw gan Y Dail yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd nos Wener diwethaf (22 Hydref). Roedd Huw yn perfformio set unigol fel cefnogaeth yn gig lansio albwm Papur Wal.