Rhyddhau EP cyntaf Derw 

Bydd EP cyntaf y grŵp pop siambr newydd o Gaerdydd, Derw, allan ddydd Gwener yma, 19 Chwefror.

‘Yr Unig Rai Sy’n Cofio’ ydy enw’r record fer sy’n cael ei rhyddhau ar label CEG Records.

Daeth Derw i’r amlwg gyntaf nôl ym mis Mai 2020 wrth ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Dau Gam’. Yna daeth ail sengl, ‘Ble Cei Di Ddod i Lawr’ i ddilyn ym mis Awst gan roi blas pellach o’r hyn oedd i ddod. Mae’r ddwy gân ar yr EP, ynghyd â thair arall.

Yn thematig mae’r EP yn ymdrin â llu o bynciau sy’n amrywio o natur i straeon byd-eang a chysylltiadau dynol.

Mae’r grŵp wedi’u dylanwadu arnynt gan waith grwpiau pop siambr fel The National ac Elbow, ac mae’r sengl yn ymdrin â’r ymdrech i ffeindio heddwch a sut mae’n teimlo weithiau fel bod yn ddieithryn yn eich meddwl eich hun.

Busnes teuluol

Sefydlwyd y grŵp gan y cerddor Dafydd Dabson a’i fam, Anna Georgina gan gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2018, a chyrraedd y rownd derfynol. Er na chafwyd llwyddiant yn Cân i Gymru, penderfynodd y ddau i ddal ati i ysgrifennu gyda’i gilydd, a tyfodd Derw o’r gwreiddiau hyn.

Hefyd yn y grŵp mae Elin Fouladi, y gantores Gymreig/Iranaidd, sy’n gyfarwydd hefyd fel El Parisa. Mae’r enw Derw yn dod o enw tad Anna, Derwas ac mae ganddynt gysylltiad cryf â’r gorffennol a hanes eu teulu, sy’n llawn straeon cyfareddol.

Mae’r EP yn un teuluol sydd wedi’i ysgrifennu gan y fam, Anna, a’i mab, Dafydd.

Mae’r trac ‘Mikhail’ yn un arbennig o bersonol sy’n sôn am ffrind Derwas a gyfarfu yn Jeriwsalem ym 1926.

Cafodd Mikhail ei fagu yn Rwsia, a’i dad yn gomander yn y Lynges Ymerodrol.  Un noson yn 1917, tra oedd ei fam i ffwrdd, cyrhaeddodd y Bolsieficiaid ei dŷ, mynd a’i dad i ystafell arall, a’i saethu.

Symudodd Mikhail a’i fam i Balesteina, a phan oedd Mikhail yn 19 cyfarfu â Derwas, myfyriwr o Rydychen. Treuliodd y ddau rai blynyddoedd yn crwydro’r anialwch gyda’i gilydd, yn chwilio am heddwch.

Trac amlwg arall ydy ‘Silver’, sydd unwaith eto â hanes teulu’n graidd iddi.

“Mae ‘Silver yn defnyddio geiriau o gerdd nath Nain sgwennu yn y 30au” eglura Dafydd.

“Mae gena ni gynlluniau i archwilio mwy i mewn i’n gorffennol  yn y dyfodol hefyd, ond dwi ddim eisiau siarad gormod am hynny eto!”

Addasu’r cynllun

Bwriad gwreiddiol y grŵp oedd i ryddhau’r EP ym mis Medi, ond penderfynwyd i oedi nes gallu ymweld â Stiwdio Acapela ym Mhentyrch ble ffilmiwyd fersiynau byw o’r traciau, a bydd rhain yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r EP o gwmpas y dyddiad rhyddhau.

Mae fideo perfformiad byw ar gyfer y trac ‘Silver’ eisoes wedi ymddangos ychydig cyn y Nadolig a bydd rhai ar gyfer ‘Mikhail’ a ‘Dau Gam’ yn cael eu cyhoeddi hefyd.

“Gan bod ni’n fand sydd wedi cychwyn rhyddhau miwsig yn ystod y cyfnod clo, oeddan ni isio i bobl gael syniad o sut fysa ni’n edrych a swnio’n fyw, a gweld bod ni actually yn fand go iawn” meddai Dafydd.

Un peth arall gan Derw a ddaliodd y sylw yn ystod 2020 oedd eu fersiwn unigryw o drac y grŵp Lewys, ‘Hel Sibrydion’.

Y trac hwnnw gipiodd wobr ‘Cân Orau’ Gwobrau’r Selar wythnos diwethaf wrth gwrs, ac roedd Derw’n hapus iawn i glywed hynny.

“Balch iawn i weld Lewys yn ennill y wobr, ma hi’n gan wych” meddai Dayfydd

“Nes i ddod ar ei thraws hi ar YouTube – wnaethom nhw fersiwn fideo ar gyfer Heno os dwi’n cofio’n iawn. O’n i’n hoff iawn o’r production  a nath o ddenu fi yn syth…ond hefyd y geiriau a’r melodi.

“O’n i’n gallu clywed sut bysa fo’n gallu gweithio efo Elin yn canu’r gân mewn steil arafach, mwy jazzy.

“Oedd o’n lot o hwyl rhoi o at ei gilydd, dwi’n hoff iawn o wneud trefniant o gân mewn arddull gwbl wahanol -os di hi’n gân dda ma hi’n gallu gweithio mewn unrhyw arddull mwy neu lai.

“Digri’ bod ni wedi gwneud un cyfyr flwyddyn diwetha’ a honno’n troi allan yn gân y flwyddyn. Gwyliwch allan am yr un nesaf – cân y flwyddyn 2021!”

Mae’n amlwg bod gan Derw glust am gân dda, a phwy a ŵyr os fydd eu cyfyr nesa nhw’n cipio’r wobr yn y dyfodol…neu efallai’n wir mai un o draciau Yr Unig Rai Sy’n cofio fydd yn hawlio’r pleidleisiau mewn blwyddyn wrth gwrs!