Rhyddhau EP cyntaf Leri Ann

Mae’r gantores, sydd hefyd yn wyneb cyfarwydd ar un o operâu sebon amlycaf S4C, wedi rhyddhau ei chynnyrch cerddorol cyntaf .

Bydd Leri Ann yn wyneb cyfarwydd i lawer ar ôl iddi actio rhan un o gymeriadau mwyaf lliwgar cyfres Rownd a Rownd ar S4C, sef Erin.

Nawr mae’r ferch sy’n enedigol o Lan Ffestiniog wedi troi at weithio ar ddatblygu ei thalent unigryw fel artist cerddorol gan weithio’n agos gyda’r cerddor a chynhyrchydd Mei Gwynedd.

“Fe wnaeth ffrind awgrymu i mi wrando ar Leri yn canu, ac o fewn diwrnodau fe wnaeth hi yrru fideo ohoni yn canu mewn coedwig” eglura Mei Gwynedd.

“Mewn cyd-ddigwyddiad llwyr, canodd hi un o fy hoff ganeuon, sef ‘I’d Rather Go Blind’ gan Etta James.

“Fe wnaeth ei llais hi gymeryd fy anadl ac roeddwn yn benderfynol o fynd ati i gydweithio, a rhannu ei llais hefo’r genedl.”

Canlyniad y bartneriaeth ydy EP cyntaf 4 trac hunan-deitlog Leri Ann sy’n cynnwys tair cân Saesneg ac un yn y Gymraeg. Mae’r prif drac, ‘You And Me’ yn gyfuniad o synau Soul a Pop ac yn sôn am deimladau person wedi i berthynas hir ddod i ben.

“Rydw i wastad wedi mwynhau canu, ond gan amlaf dim ond fy nghi, Lwlw, sydd yn gwrando arna’i” meddai Leri.

“…felly dwi llawn nerfusrwydd, ond eto cyffro i ganu y caneuon yma o flaen cynulleidfa.

“Rydw i’n gweld fy ngyrfa actio yn mynd law yn llaw hefo fy ngyrfa canu, a dwi a Mei yn barod wedi gweithio ar lwyth o ganeuon newydd.”

Mae’r EP, sy’n rhannu enw’r artist. allan yn swyddogol heddiw, 24 Medi, ar label JigCal.