Rhyddhau EP Kim Hon

Yn ddi-rybudd, mae’r grŵp o Ddyffryn Nantlle, Kim Hon, wedi rhyddhau EP newydd ers dydd Mercher diwethaf, 11 Awst.

‘Stoppen Met Rocken’ ydy enw’r EP sydd allan ar label Recordiau Libertino.

Mae chwech trac ar y casgliad, gan gynnwys y senglau sydd eisoes wedi’u rhyddhau gan y grŵp – ‘Twti Ffrwti’, ‘Bach o Flodyn’, ‘Parti Grwndi’ a ‘Nofio Efo’r Ffishis’ ynghyd â dau drac arall, sef ‘Daniel Aboagye’ a ‘Cadw’r Newid’.

Sylfaenwyr Kim Hon ydy’r ddau Iwan – Iwan Llŷr (gitâr, allweddellau) ac Iwan Fôn (prif ganwr). Ymunod y tri aelod arall, Cai Gruffydd, Siôn Gwyn a Caleb Rhys yn ddiweddarach.

Doedd dim bwriad i ffurfio’r grŵp yn wreiddiol, Iwan Fôn glywodd demos roedd Iwan Llŷr wedi’u hysgrifennu yn ei dŷ yn Kenny, Lerpwl er mwyn diddori ei hun. Awgrymodd Iwan Fôn y dylid mynd a’r caneuon ymhellach ac o hynny y datblygodd Kim Hon.

Mae’r EP yn cloi pennod agoriadol taith Kim Hon yn ôl y grŵp, cyn mentro ar y daith nesaf sydd i ddilyn yn y dyfodol agos.

Dyma fideo sengl gyntaf ardderchog y grŵp, ‘Twti Ffrwti’: