Rhyddhau EP Los Blancos

Mae EP newydd Los Blancos allan ers ddoe, 6 Awst ar label Recordiau Libertino.

Mae’r grŵp o Sir Gâr wedi sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond fel gymaint o artistiaid eraill, fe roddodd y clo mawr stop ar eu cynlluniau tymor byr.

Er hynny, mae’r newyddion am EP newydd wedi dod o unlle, a daw’n amlwg fod hwn yn gasgliad anarferol sydd wedi codi o amgylchiadau’r flwyddyn a hanner ddiwethaf.

‘Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig’ ydy enw’r record fer newydd ac mae’n wahanol i gynnyrch blaenorol y band gan ei fod yn cynnwys cyfansoddiad gwreiddiol gan bob un o’r aelodau unigol.

“Yn ystod y cyfnod clo, wrth aros i fynd nôl i’r stiwdio i orffen ein ail albwm, aeth pawb nôl trwy hen demos oedd wedi casglu dros y blynydde dwetha, a’u rhoi mewn un ffeil ar dropbox” eglura’r band.

“Odd rhyw 40 o syniade yna felly gatho ni y syniad o ryddhau casgliad yn cynnwys un cyfansoddiad gan bob aelod tra bod ni’n aros i allu mynd nôl i’r stiwdio.”

“Mae hyn wedi arwain at EP amrywiol ac mae modd gweld dylanwad pob aelod yn gliriach a sut maent yn cyfrannu at sŵn Los Blancos.

“Odd hyn yn wahanol i’r band achos ni fel arfer yn ysgrifennu gyda’n gilydd mewn ystafell ymarfer gyda pawb yn dylanwadu mewn rhyw ffordd ar bob cân.”

Yr EP newydd ydy cynnyrch cyntaf Los Blancos ers rhyddhau eu halbwm llwyddiannus, ‘Sbwriel Gwyn’ a ryddhawyd ym mis Medi 2019 – record a gafodd ei enwebu ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Recordiwyd yr EP gan y band yn eu cartrefi a chymysgwyd y cyfan gan eu cynhyrchydd hirhoedlog Kris Jenkins.

Mae’r EP yn amrwd, yn llawn angerdd ac yn llawn melodïau heintus Los Blancos.

Rhestr Traciau’r EP a’r cyfansoddwr

100 AD (ysgrifennwyd gan Osian)
Diogi (ysgrifennwyd gan Emyr)
Mil o Eirie (ysgrifennwyd gan Gwyn)
Noi Vogliamo (ysgrifennwyd gan Cian)
Trwmgwsg Tragwyddol (ysgrifennwyd gan Dewi)