Rhyddhau EP newydd Lastigband

Mae’r grŵp a ffurfiwyd yn wreiddiol yn Nyffryn Conwy a Dyffryn Ogwen, Lastigband, yn ôl gydag EP newydd a ryddhawyd ar Noswyl Nadolig.

Diffyg ydy enw’r record fer newydd sydd wedi ymddangos ar safle Bandcamp Lastigband yn unig ar hyn o bryd, ac mae’n cynnwys pedwar trac newydd.

Lastigband ydy’r prosiect seicadelig sy’n cael ei arwain gan ddrymiwr Sen Segur, Gethin Davies. Daethant i amlygrwydd tua dechrau 2016, gan gigio tipyn ac yna rhyddhau’r EP ‘Torpido’ yn Ebrill 2017.

Mae’n debyg bod y band wedi datblygu i fod yn fwy o brosiect unigol yn ddiweddar, felly Gethin ei hun sy’n gyfrifol am y traciau newydd sydd ar yr EP.

Er mai ar safle Bandcamp Lastigband yn unig mae’r EP newydd ar hyn o bryd, bydd yn cael ei ryddhau ar yr holl lwyfannau digidol arferol eraill ar 29 Ionawr hefyd.

Gall Y Selar ddatgelu bydd fideo i gyd-fynd ag un o ganeuon yr EP yn ymddangos ddiwedd y mis hefyd – mwy o wybdaeth yn y man!

Dyma ‘Dannedd i Fewn’ oedd yn un o ddewisiadau Sbin Selar ar ddarllediad Stafell Fyw nos Fercher: