A hwythau eisoes wedi rhyddhau cwpl o senglau i roi blas, mae Band Pres Llareggub bellach wedi cyhoeddi eu halbwm newydd, Pwy Sy’n Galw?
Fersiwn unigryw o unig albwm cyfan gwbl Gymraeg y grŵp Big Leaves ydy’r record hir ddiweddaraf gan y band pres cyfoes sydd wedi sefydlu eu hunain fel un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru.
Dyma ydy pedwerydd albwm Band Pres Llareggub ac maent yn dychwelyd i’w gwreiddiau i raddau wrth ryddhau fersiwn newydd o glasur o’r gorffennol.
Ffrwydrodd y grŵp i amlygrwydd yn 2015 gyda fersiwn newydd, wahanol iawn, o albwm enwog ‘Mwng’ gan Super Furry Animals.
Ers hynny maent wedi mynd ati i gyfansoddi a recordio caneuon eu hunain, ac wedi rhyddhau dau albwm o ganeuon gwreiddiol sef ‘Kurn’ yn 2016 a ‘Llareggub’ yn 2017.
Gwell na Mwng
Wrth ddychwelyd at ail-weithio caneuon band arall o’r gorffennol, yn ôl arweinydd Band Pres Llareggub, Owain Gruffudd Roberts, maent wedi dewis albwm sydd hyd yn oed yn well na Mwng.
“‘Pwy sy’n Galw?’gan Big Leaves yw’r albwm orau iaith Gymraeg erioed.. heb os… a dyna pam neshi ddewis neud fersiwn gwbl newydd ohono…” meddai Owain.
“Beganifs oedd y band cyntaf i mi weld yn fyw erioed pan oni ryw 9 oed yn Ysgol y Garnedd. Bu iddynt wneud marc arnai”
“Bu i ‘Mwng’ [gan Super Furry Animals] a ‘Pwy sy’n Galw?’ ddod allan yn agos iawn i’w gilydd. Ac er fod Mwng yn gasgliad gwych o ganeuon, mi ydwi o’r farn fod ‘Pwy Sy’n galw?’ efo caneuon hyd yn oed gwell!”
Wrth baratoi i ryddhau’r albwm, mae’r grŵp eisoes wedi rhyddhau dwy o’r caneuon gwych hynny fel senglau i roi blas. Y gyntaf o’r rheiny oedd ‘Synfyfyrio’ a rhyddhawyd ar 23 Gorffennaf gyda Mared Williams yn westai arbennig ar y trac.
Yr ail sengl oedd ‘Meillionen’ gydag Eädyth yn westai arbennig, a ryddhawyd gwpl o wythnosau nôl .
Newid cynllun
Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar Big Leaves. Roedd y grŵp, a ffurfiodd yn wreiddiol dan yr enw Beganifs yn Waunfawr ger Caernarfon, yn un o fandiau amlycaf Cymru trwy’r 1990au hyd iddynt chwalu yn 2003. Er hynny, ‘’Pwy Sy’n Galw?’ a ryddhawyd yn 2000 oedd eu hunig albwm cyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg.
Y cynllun gwreiddiol oedd i ryddhau’r albwm yn 2020 i ddathlu ugain mlynedd ers y gwreiddiol, ond oherwydd Covid-19 bu’n rhaid newid cynllun hwnnw.
Mae’r broses o ail-drefnu ac ail-recordio’r albwm wedi bod yn un llafurus ac anodd, nid yn unig y gwaith ail-drefnu’r holl gerddoriaeth ar gyfer ensemble prês ond hefyd y ffaith fod Owain, y cyfansoddwr a chynhyrchydd, yn byw yn Llundain.
Mae’r albwm wedi gwneud defnydd o dros 16 gwahanol leoliad ac wedi dibynnu’n drwm ar dechnoleg fodern digidol i allu rhannu traciau yn igelectron dros y rhyngrwyd.
Mae’r artistiaid gwadd ar yr albwm yn dangos doniau amryw o gantorion y mae’r band wedi cyd-weithio gydag o’r blaen, fel Mared Williams a Tara Bethan. Ond mae hefyd lleisiau newydd i’w clywed ymysg y traciau, gan gynnwys neb llai nag Yws Gwynedd (sydd yn ffan enfawr o Big Leaves), a hefyd Ifan Pritchard o’r band Gwilym, Katie Hall o Chroma a Rhys Gwynfor. Fe gawn Eadyth Crawford yn dangos ei doniau ar ‘Meillionen’ a hefyd ei chwaer Kizzy ar y trac canlynol, ‘Whistling Sands’.
Rhestr Traciau ‘Pwy Sy’n Galw?’ gan Band Pres Llareggub
1 Dilyn Dy Drwyn
2 Pryderus Wedd (gydag Ifan Pritchard)
3 Meillionen (gydag. Eadyth)
4 Whistling Sands (gyda Kizzy Crawford)
5 Blêr (gydag Yws Gwynedd)
6 PhD (gyda Katie Hall)
7 Synfyfyrio (gyda Mared Williams)
8 Byw Fel Ci (gyda Rhys Gwynfor)
9 Pwy Sy’n Galw?
10 Barod i Wario
11 Seithenyn (gyda Tara Bethan)
Dyma’r fersiwn o ‘Blêr’ o’r albwm gydag Yws Gwynedd yn canu: