Mae Eädyth wedi cyd-weithio â’r symudiad cerddorol o Gaerdydd, Ladies of Rage, i ryddhau EP aml-gyfrannog o gerddoriaeth gan ferched cymreig o liw.
Harddwch Du ydy enw’r casgliad byr o bump trac sy’n cynnwys cyfraniadau gan y cerddorion Aisha, YazMean, Asha Jane, Niques, Bianca Ali, Cupsofte, Trishna Jaikara a Zannah Leah.
Mae’r EP yn cynnwys cerddoriaeth RnB, Neo-soul, rap a synau arbrofol ynghyd â lleisiau soul a geiriau pwerus.
Bwriad yr EP ydy arddangos yr ystod eang o artistiaid o liw sy’n rhan o’r symudiad cydweithredol Ladies of Rage.
Mae’r geiriau dwy-ieithog yn archwilio’r profiad o fod o dras ethnig ac yn Gymraes yn ‘Rise Up’, ynghyd â Black Lives Matter yn ‘Struggle is Real’.
Mae modd clywed a phrynu’r casgliad ar safle Bandcamp Later Records ac mae’n swnio’n wych i ni.
Dyma’r trac dwy-ieithog ‘Mamacita’: