Mae sengl gyntaf prosiect newydd i gerddorion ifanc sydd eisiau cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg wedi cael ei ryddhau ddydd Gwener diwethaf, 2 Gorffennaf.
Enw’r sengl ydy ‘Niwl’ a dyma ydy cynnyrch cyntaf prosiect ‘Sbardun Talent Ifanc’ sy’n cael ei redeg gan y cynhyrchydd amlwg Endaf, mewn partneriaeth gyda’r Galeri yng Nghaernarfon.
Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar-lein ar wefan Y Selar wythnos diwethaf.
Mae pedwar cerddor ifanc yn rhan o’r prosiect, ac mae ‘Niwl’ yn drac gan Mike Pritchard, ac enw digon cyfarwydd i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, sef Dafydd Hedd.
Dylanwadau’n glir
Dim ond 18 oed ydy Dafydd Hedd, er ei fod wedi rhyddhau dau albwm llawn, yn ogystal â’r EP, ‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd’, yn ddiweddar.
Er hynny, dyma’r tro cyntaf i Dafydd gyflwyno cerddoriaeth electronig ar ôl bod yn canolbwyntio ar sŵn indie, pop, pync a roc cyn hyn.
Dim ond blwyddyn yn hŷn na Dafydd ydy Mike Pritchard, sy’n cael ei adnabod hefyd fel Mike RP.
Wedi ei ddylanwadu arno gan Carl Cox a Jamie Jones mae wedi bod yn DJio ers iddo fod yn 14 oed cyn symud ymlaen i gynhyrchu cerddoriaeth. Mae ei gerddoriaeth yn bennaf o genre disgo a house ac mae wedi rhyddhau ‘U Got’ a ‘Stop Messin’ ar ei safle soundcloud, gan ddenu sylw Endaf.
Yn ôl Endaf mae dylanwadau’r ddau gerddor ifanc yn glir ar y trac ‘Niwl’, o’r geiriau a llais teimladwy Dafydd Hedd i’r bît sy’n cyfleu awyrgylch clwb nos gan Mike RP hefo Endaf yn clymu’r cwbl gyda’i ddulliau electonig unigryw.
Dyma drac i’w fwynhau allan yn yr haul gyda gobaith gwirioneddol am ddychwelyd i ddigwyddiadau byw yn y dyfodol agos.