Rhyddhau ôl gatalog Recordiau 123 yn ddigidol

Mae ôl gatalog label recordiau fu’n weithgar yn y 1980au, Recordiau 123, wedi’i ryddhau’n ddigidol am y tro cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 9 Gorffennaf.

Recordiau 123 ydy’r label dan sylw, oedd yn cael ei redeg gan y cerddor Dafydd Pierce.

Roedd y cynnyrch a ryddhawyd gan y label yn cynnwys cerddoriaeth gan artistiaid amlwg fel Derec Brown, Bryn Fôn, Geraint Griffiths a Dafydd Dafis ynghyd â’r grŵp chwedlonol, Hywel Ffiaidd.

“Mae’r stori yn dechrau yng Nghaerdydd yn 1799 a Stiwdio 123 yn 123 Bute Street” meddai Dafydd Pierce.

“’Gorsaf y Gofod’ yn cynnwys Bryn Fôn a Derec Brown gynt o Hergest yn canu ‘Gwalaxia’ oedd rhai o’r cynyrchiadau cyntaf a ryddhawyd gan Recordiau 123.

“Recordiwyd y sengl gyntaf – ‘Gweud Dim’ gan Hywel Ffiaidd, diolch i nawdd Huw Ceredig.

”Roedd llawer o gigs dros Gymru i fandiau oedd yn canu yn y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn, felly perfformiodd y bandiau a’r unigolion mewn sawl gig dros y blynyddoedd. Roeddwn yn ffodus iawn i gael Pino Palladino ac Aran Ahmun ymysg sawl cerddor eithriadol dalentog eraill yn mynychu’r stiwdio dros y cyfnod.”

Yn ôl Dafydd roedd hyd at bump band yr wythnos yn mynd recordio yn Stiwdio 123 i recordio dros gyfnod o 7 blynedd ac roedd cynnyrch y label yn amrywiol, a gwreiddiol iawn.

Datblygodd Hywel Ffiaidd i fod yn Mochyn ‘Apus gyda Dewi Pws a Tich Gwilym yn ymuno. Rhyddhaodd Tich Gwilym y record Estudio Para Charango – albwm sy’n arddangos dylanwad ei ffrindiau o wlad Chile oedd yn astudio yn y coleg yng Nghaerdydd, yn yr albwm cawn weld dylanwad miwsig De America yn glir drwyddi draw.  Rhyddhawyd hefyd “Y Ferch ar y Cei yn Rio” sy’n llawn dylanwadau Lladin Amerig.”

Symudodd y stiwdio i Blas Dinefwr yn Llandeilo, ond ar ôl tair blynedd yno bu’n rhaid symud gan i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol brynu’r adeilad. Symudodd y cwmni i bentref bach diarffordd Llanfynydd a dyna lle mae’r stiwdio dal i sefyll heddiw.

“Yn Llanfynydd, gorffennon ni Gwyneb Arall, Barddoniaeth Bob Dydd, Caneuon Ann a llawer mwy” meddai Dafydd.

Mae 9 o recordiau Recordiau 123 wedi’i rhyddhau’n ddigidol am y tro cyntaf ers dydd Gwener 9 Gorffennaf. Dyma restro ohonynt:

 

MACHLUD – Amrywiol (Bryn Fon, Geraint Griffiths, Dafydd Dafis, Marged Esli)
CANEUON ANN – Dino Pierce (Yn cynnwys / featuring Eurwyn Pierce a geiriau Ann Pierce (lewys gynt))
ESTUDIO PARA CHARANGO – Tich Gwilym (yn cynnwys / featuring Claudio Perut, Mario Gaete, Phil Mignaud)
GWYNEB ARALL – Yn cynnwys Cedwyn Aled a Graham Land
Y FERCH AR Y CEI YN RIO – Dafydd Pierce (yn cynnwys / featuring John Phillips, Mike Pierce
MAS O’I BEN BOB NOS – Mochyn ‘Apus (Yn cynnwys / featuring Dewi Pws, Dyfed Thomas, Tich Gwilym, Dai Watkins + Jack Bass)
CANEUON HEDDIW A DDOE – Derec Brown
HYWEL FFIAIDD – Hywel Ffiaidd (Yn cynnwys / featuring Dyfed Thomas, Dafydd Saer, Aran Ahmun a geiriau / words by Meic Povey.
GORSAF Y GOFOD – Dafydd Pierce (yn cynnwys / featuring Pino Palladino, Aran Ahmun).

Dyma’r anhygoel ‘SPRII X-37’ o’r albwm cysyniadol ardderchog, Gorsaf y Gofod: