Rhyddhau pedwerydd albwm Mr

Mae Mr, sef prosiect diweddaraf y cerddor profiadol, Mark Roberts, wedi rhyddhau ei albwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 15 Hydref.

Mae Mark yn gyfarwydd iawn fel aelod o’r Cyrff, Y Ffyrc a Catatonia ymysg grwpiau eraill ac yn cael ei gydnabod fel un o gerddorion mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth.

Llwyth ydy enw pedwerydd albwm Mr ac roedd Mark eisoes wedi gollwng dau drac o’r record hir i gynnig blas dros y misoedd diwethaf. Daeth ‘Dinesydd’ i’r golwg ym mis Mehefin, ac yna cyrhaeddodd y sengl ‘Dim Byd yn Brifo Fel Cariad’ fel dilyniant ychydig wythnosau yn ôl.

Yn ôl Mark, nid oedd yn fwriad gwreiddiol i ryddhau ‘Dinesydd’ mor fuan.

“O’n i wedi pasio ‘Dinesydd’ ymlaen i Paul [Jones, basydd Mr) gael chwarae bas arni hi a ddaru o bwyntio allan bod y trac yn swnio’n hafaidd iawn” eglura Mark.

“Felly nes i benderfynu rush releasio fo tra bod y tywydd yn boeth.

“Jyst cân bop fach syml, tafod yn y boch ydy hi. Rhyw fath o love letter i fywyd mewn dinas.”

Yn sicr cafodd y rhagflas, a’r newyddion bod i’r albwm newydd ar y ffordd, groeso cynnes.

Llwyth ydy’r bedwaredd record hir gan Mr mewn pedair blynedd gan ddilyn Oesoedd (2018), Amen(2019) a Feiral (2020).

Mae modd cael gafael ar fersiwn ddigidol y record, ac archebu’r fersiwn CD, ar safle Bandcamp Mr.

Dyma’r ardderchog ‘Dim Byd yn Brifo Fel Cariad’: