Rhyddhau sengl Cai

Mae’r artist ifanc o Benygroes, Cai, wedi rhyddhau ei sengl newydd ddoe, 5 Chwefror.

Ymddangosodd Cai gyntaf gyda thri trac newydd ym mis Rhagfyr, ac roedd cyfle cyntaf i glywed a gweld fideo un o’r traciau hynny, ‘Blaidd (Nôl a Nôl) ar wefan Y Selar.

Mae wedi denu tipyn o sylw ers hynny, a chael ei chwarae ar y radio gan gyflwynwyr fel Huw Stephens ymysg eraill.

‘Anghofio am Chdi’ ydy enw’r trac newydd ac mae fideo gan Trac 42 yn cael ei ryddhau ar gyfer y sengl hefyd.

Dyma’r fideo: