Mae trac sydd wedi ei hysgrifennu ar y cyd gan ddau gerddor cyfarwydd wedi’i rhyddhau dros y penwythnos.
‘Pale Moon’ ydy enw’r sengl sydd wedi’i rhyddhau gan y prosiect Don Ya Ya. Mae’r gân wedi’i chyfansoddi ers 2010 gan y cerddorion Hywel Griffiths ac Owen Powell.
Hywel oedd arweinydd y band Howl Griff, a ryddhaodd albwm Cymraeg a gafodd groeso cynnes yn 2008, ac a oedd yn rhannu enw’r grŵp.
Mae Owen Powell wrth gwrs yn amlwg fel aelod o Catatonia. Mae fideo wedi’i gyhoeddi arlein i gyd-fynd â’r sengl, a dyma fo: