Rhyddhau sengl ddiweddaraf Melin Melyn

Mae’r grŵp lliwgar ym mhob ystyr, Melyn Melyn, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf wythnos yma.

‘Short Haired Lady’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos ganddynt, ac fe’i rhyddhawyd yn ddigidol ddoe, 19 Hydref.

Daw’r sengl yn fuan ar ôl rhyddhau EP cyntaf Melin Melyn, Blomonj, nôl ym mis Awst eleni.

Mae’r trac unwaith eto’n llawn o wallgofrwydd arferol y grŵp.