Mae dwy gantores gyffrous wedi partneriaethu ar gyfer rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Llif yr Awr’ ddydd Gwener diwethaf, 2 Ebrill.
Er gwaethaf y cyfyngiadau, mae Mared wedi cael blwyddyn hynod llwyddiannus wrth ryddhau ei halbwm cyntaf a chipio dwy o wobrau’r Selar fis Chwefror.
Ar gyfer ei chynnyrch diweddaraf mae’n cyd-weithio â’r gantores jazz dalentog, Gwenno Morgan.
Fe ymddangosodd Gwenno gyda Mared i berfformio ‘Llif yr Awr’ ar raglen ‘Curadur’ Lŵp, S4C yn ddiweddar ac mae hefyd wedi cyd-weithio gyda Sywel Nyw ar ei sengl ddiweddaraf, ‘Dyfroedd Melys’ a ryddhawyd ddiwedd mis Mawrth.
Cyfarfu’r ddwy gantores dalentog ar gwrs cerddoriaeth ym mhrifysgol Leeds dair blynedd yn ôl, ac mae’r sengl newydd yn ganlyniad cyfuniad o ddoniau a dylanwadau’r ddwy.
Mae’r trac yn plethu synau hudolus piano a synth, gyda’r geiriau ar alaw gan Mared a’r cynhyrchiad ac offeryniaeth gan Gwenno.
Mae’r trac yn sôn am fod yn amyneddgar wrth greu ac mae’n enghraifft o’r haenau a synau allweddell a fydd i’w glywed ar EP cyntaf Gwenno Morgan, ‘Cyfnos’, ac sydd eisoes wedi dod i’r amlwg ar albwm llwyddiannus Mared, ‘Y Reddf’.
Label Recordiau I KA CHING sy’n gyfrifol am ryddhau’r sengl newydd ac fe’i cymysgwyd a mastrwyd gan Drwm yn Stiwdio Sain. Mae Osian Huw Williams (Candelas, Blodau Papur) yn chwarae bas a drymiau ar y recordiad. Steffan Dafydd (Penglog) sy’n gyfrifol a waith celf trawiadol y sengl.
Dyma’r perfformiad ar Curadur: