Rhyddhau sengl newydd Carwyn Ellis & Rio 18

Mae sengl ddiweddaraf prosiect Carwyn Ellis & Rio 18 wedi’i rhyddhau ers dydd Gwener diwethaf, 8 Hydref.

‘Y Bywyd Llonydd’ ydy enw’r trac newydd a hon ydy’r ail sengl i’w rhyddhau o albwm nesaf y prosiect, ‘Yn Rio’.

Mae’r albwm newydd wedi’i recordio gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru.

Mae’r sengl newydd ar gael yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol nawr, ac rydan ni’n argymell Bandcamp yn benodol.

Dyma ‘Y Bywyd Llonydd’: