Rhyddhau sengl NFT Griff Lynch

Mae Griff Lynch wedi rhyddhau ei sengl unigol diweddaraf ar ddydd Gwener 16 Ebrill.

‘Os Ti’n Teimlo’ ydy enw’r trac newydd, a dyma’i gynnyrch unigol cyntaf ers 2018.

Mae Griff hefyd yn gyfarwydd fel aelod o grŵp Yr Ods hefyd wrth gwrs, yn ogystal ac fel cyflwynydd a gwneuthurwr ffilm.

Mae’r sengl newydd ganddo wedi denu tipyn o sylw wrth iddo benderfynu rhyddhau’r trac, neu gopi master ohoni, fel NFT (sef non-fungible token) – yr esiampl gyntaf o’r fath beth yn yr iaith Gymraeg.

Er dal yn weddol newydd fel cysyniad, mae NFT wedi datblygu i fod yn ffurf newydd poblogaidd i un person brynu a pherchnogi celf ac eitemau digidol ar-lein, gan ddefnyddio cryptocurrency i dalu.

Datgelodd Griff wythnos diwethaf bod yr NFT ar gyfer ‘Os Ti’n Teimlo’ wedi’i brynu am 0.07 Ethereum gan Phil Stead, sy’n golofnydd chwaraeon, ond hefyd yn ffigwr cyfarwydd yn y byd cyfryngau digidol Cymraeg hefyd.

Yn gerddorol, mae Griff wedi symud oddi wrth y sain electronig sydd wedi bod yn amlwg ar ei senglau unigol blaenorol, gan ddychwelyd at sŵn organig ac analog ei naws.

Er hynny, mae geiriau’r gân yn gyson gyda themâu llwm ei waith blaenorol.

Wrth gwrs, y peth defnyddiol am fod yn gerddor sydd hefyd yn gyfarwyddwr a gwneuthurwr ffilm, ydy ei bod hi’n gwneud bywyd yn dipyn haws o ran creu fideo i gyd-fynd â’ch senglau…yn enwedig yng nghanol pandemig!

Felly mae Griff wedi bod yn greadigol wrth greu fideo ar gyfer ‘Os Ti’n Teimlo’, neu fel mae Griff yn ei ddisgrifio, ei feature film cyntaf…ond heb y ffilm…jyst y credits. Ta waeth, ma’n reit glyfar felly mwynhewch.