Mae trydedd sengl o ddeuddeg Sywel Nyw yn ystod 2021 allan ers dydd Gwener diwethaf ac yn ei weld yn cyd-weithio gyda Gwenno Morgan y tro hwn.
‘Dyfroedd Melys’ ydy’r trac diweddaraf o ymgais uchelgeisiol Sywel Nyw i ryddhau sengl pobl mis yn ystod 2021, a hynny wrth gydweithio gydag artist gwahanol ar bob un.
Mae Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn, eisoes wedi rhyddhau sengl ar y cyd â Mark ‘Cyrff’ Roberts fis Ionawr, ac yna gyda Casi Wyn fis Chwefror.
Gwenno Morgan ydy’r artist gwadd ar gyfer mis Mawrth. Daw Gwenno’n wreiddiol o Fangor, ond mae bellach yn byw yn Leeds ac yn prysur wneud enw i’w hun fel cerddor gan blethu elfennau o jazz, cerddoriaeth glasurol ac electronica.
“Ar ôl cyfnod hir o gyfyngiadau, ro’n i ishe sgwennu miwsig fase’n gneud rhywun i ddawnsio” meddai Gwenno.
“Mi na’th y profiad o gydweithio hefo Lewys fy sbarduno i chwilio am syniadau newydd. Y cydweithio yna aeth â’r gerddoriaeth i rywle na fase wedi mynd pe byswn i jest wedi sgwennu rhywbeth ar ben fy hun.”
Mae naws ‘Dyfroedd Melys’ yn wahanol i naws y senglau blaenorol, gydag arddull jazz teimladwy Gwenno wedi’i blethu’n fedrus gyda geiriau a melodïau Sywel Nyw.
I gyd-fynd â’r sengl mae fideo sydd wedi’i gyfarwyddo gan Anna Huws, gyda’r gwaith ffilmio a golygu gan Gwilym Huws.
Dyma’r fid: